大象传媒

Sgwrsio mewn siopau i ddysgu'r Gymraeg cyn y Brifwyl

Julie Godfrey ac Emily Greenslade
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Julie Godfrey ac Emily Greenslade ymhlith y gweithwyr sy'n gallu sgwrsio gyda phobl sy'n ceisio dysgu'r iaith

  • Cyhoeddwyd

Ers blynyddoedd mae gweithwyr mewn siopau a busnesau wedi bod yn gwisgo bathodyn arbennig i roi gwybod i gwsmeriaid eu bod nhw'n siarad Cymraeg.

Yn y flwyddyn newydd, fe fydd cynllun newydd yn dechrau yn y ddwy ardal fydd yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd nesaf i annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, nid yn unig i ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith, ond hefyd er mwyn cael sgwrs.

Mae'n gynllun ar y cyd rhwng Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a Mentrau Iaith Cymru.

"Y prif nod yw rhoi cyfle i'n dysgwyr, i'n siaradwyr newydd ni, i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau yn naturiol," meddai Helen Prosser, sy'n gyfarwyddwr dysgu ac addysgu yn y Ganolfan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Helen Prosser o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol

"Yr hyn sy'n wahanol am y cynllun yma yw bod pawb sydd yn y siopau a'r busnesau hyn wedi ymrwymo i gael sgwrs gyda phobl, nid dim ond rhoi gwasanaeth ond i gael sgwrs," meddai Ms Prosser.

"Dyna un peth, ond wrth gwrs wrth hyrwyddo'r Gymraeg fel 'na i'n dysgwyr, i'n siaradwyr newydd, ry'n ni'n gobeithio ein bod ni'n hyrwyddo'r Gymraeg yn gyffredinol i bawb a chodi proffil."

Bydd y cynllun ar waith i ddechrau yn Rhondda Cynon Taf ac yn ardal Wrecsam.

Mae busnesau yn Nhreorci ac Aberd芒r wedi cytuno i gymryd rhan pan ddaw i rym yn swyddogol ym mis Ionawr. Yn eu plith mae siop flodau Lili Wen yn Nhreorci.

"Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i ni yn y siop 'ma," meddai Emily Greenslade.

"Yn amlwg ni'n siarad Cymraeg ein hunain... Dwi'n credu ei fod e'n bwysig i roi cyfle i bobl yn y gymuned i gael ymarfer a defnyddio'r iaith os mae'r cyfle 'da nhw.

"Mae'n hollbwysig wedyn bo' gyda nhw rhywle i allu ymarfer beth maen nhw'n dysgu o ran bo' nhw'n gallu defnyddio beth sydd gyda nhw yn yr ystafell ddosbarth wedyn tu fas yn y gymuned."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynnig rhywle i bobl allu ymarfer eu sgiliau iaith yn hollbwysig, yn 么l Emily Greenslade

Mae'r trefnwyr yn dweud y bydd hwn yn ychwanegu at y cynllun Iaith Gwaith, lle mae staff yn gwisgo bathodyn i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg.

"Mae bathodyn yn syniad da," meddai Julie Godfrey o Siop Anifeiliaid Anwes a Garddio Treorci.

"Mae pobl yn gwybod bo' nhw'n gallu dod i siop i siarad Cymraeg 芒 fi ac ymarfer.

"Mae e yn hyfryd achos os mae pobl ddim yn siarad Cymraeg, ac maen nhw'n dod yma - maen nhw'n dweud 'O! Mae'n hyfryd i glywed pobl yn siarad Cymraeg yn y siop ac yn y gymuned'."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cwsmeriaid wrth eu boddau'n clywed yn Gymraeg yn Siop Anifeiliaid Anwes a Garddio Treorci, medd Julie Godfrey

Mae Judi Davies yn byw yn Aberd芒r ac wedi dysgu Cymraeg ar 么l symud o Loegr.

Mae hi'n croesawu'r cynllun oherwydd ei bod hi'n gallu bod yn anodd gwybod pwy yn yr ardal sy'n gallu siarad Cymraeg

"Dwi'n meddwl bod e'n wych," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddysgodd Judi Davies y Gymraeg ar 么l symud i Gymru o Loegr

"Mae'n syniad anhygoel achos mae llawer iawn o bobl yn yr ardal yn siarad Cymraeg ac mae llawer o ddysgwyr hefyd, ond mae'n anodd i ddod o hyd i bobl sy'n gallu siarad Cymraeg.

"Dwi'n mynd i fore coffi yn Parc Gwledig Cwmd芒r pan dwi'n gallu, a weithiau mae pobl yn dod draw a dweud 'Ydych chi'n siarad Cymraeg gyda'ch gilydd? Mae'n wych! Dwi'n gallu siarad Cymraeg.'

"Doeddwn i ddim yn gwybod fod hynny'n bodoli."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Siop Flodau Lili Wen yn Nhreorci

Fe fydd y cynllun yn dechrau'n swyddogol ym mis Ionawr, ac yn ogystal 芒 Rhondda Cynon Taf a Wrecsam, mae 'na ddiddordeb gan fusnesau yn Aberteifi a Llambed.

Y gobaith yw bydd yn annog pobl i ddefnyddio'u Cymraeg yn fwy, fel mae Julie Godfrey yn ei wneud yn y siop anifeiliaid anwes yn Nhreorci.

"Dwi'n cael llawer o gyfle i ymarfer drwy weithio yma," meddai Ms Godfrey.

"Mae pobl yn mwynhau siarad Cymraeg. Dwi ddim yn rhugl. Dwi'n 'neud llawer o camgymeriad ond dim ots - dal ati ie!"

Pynciau cysylltiedig