Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Elusen Pwll Nofio Aberteifi 'ar ei gliniau yn ariannol'
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae elusen sy'n rhedeg pwll nofio yn y gorllewin "ar ei gliniau yn ariannol", yn 么l ei chadeirydd.
Mae Pwll Nofio Aberteifi wedi gorfod cau sawl gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf, yn sgil problemau gydag offer yn yr adeilad.
Yn ystod y cyfarfod blynyddol brynhawn Llun, cadarnhaodd Matt Newland ei fod yn bwriadu ildio'r awenau fel cadeirydd yr ymddiriedolwyr yn ystod y misoedd nesaf.
Clywodd y cyfarfod bod yna ddiffyg o 拢8,307 yn y coffrau, am fod y pwll wedi colli incwm, a bod yna gostau sylweddol ynghlwm wrth atgyweirio offer ac adeiladau.
Mae'r pwll wedi derbyn grant o 拢230,000 gan Chwaraeon Cymru ar gyfer offer gwresogi newydd, ac mae'r gwaith hwnnw yn mynd yn ei flaen tra bod y pwll ar gau.
Ymddiriedolwyr 'wedi gwneud eu gorau'
Mae'r cyfleusterau ar y safle yn Feidr Fair yn dyddio'n 么l i 1977.
Dywedodd Matt Newland wrth 大象传媒 Cymru bod y pwll wedi gorfod cau "rhyw hanner dwsin o weithiau yn ystod y 12 mis diwethaf".
"Mae offer wedi methu ac mae hynny wedi costio llawer i鈥檞 atgyweirio, ond mae yna golled wedi bod o ran incwm, wrth orfod cau," meddai.
"Ni ar ein gliniau yn ariannol. Mi fyddwn yn gorfod hawlio rhai o鈥檙 costau hynny 'n么l."
Clywodd y cyfarfod bod hi'n fwriad i drosglwyddo'r gwaith o redeg y pwll i gwmni cyfyngedig, gyda statws elusennol.
Roedd tua 40 o bobl yn y cyfarfod, gyda rhai yn feirniadol o'r ffordd y mae'r pwll yn cael ei redeg.
Dywedodd Mr Newland bod yr ymddiriedolwyr "wedi gwneud eu gorau" ond bod prinder staff yn y ganolfan yn broblem barhaol.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Mr Newland mai鈥檙 ateb, yn y pen draw, oedd sicrhau bod canolfan llesiant i鈥檙 dref yn cael ei hadeiladu ar safle'r pwll presennol, gydag ymrwymiad gan y cyngor sir i ddarparu pwll newydd sbon.
Cyngor yn 'ff么l iawn' i gau'r pwll
"Os ydyn nhw'n gwario'r holl arian ar ganolfan newydd, ac mae'r pwll yn cau oherwydd diffyg buddsoddiad, yna mae hynny yn ganlyniad gwael i bobl Aberteifi a'u lles.
"Mae鈥檙 lle yma yn lleoliad allweddol i nifer fawr o bobl.
"Mi fyddai鈥檙 cyngor yn edrych yn ff么l iawn os ydy'r pwll yn cau, oherwydd diffyg buddsoddiad, ond mae arian yn cael ei wario ar safle arall yn y dref i greu canolfan llesiant.
"Rwy鈥檔 galw ar y cyngor i sicrhau bod pwll newydd yn rhan o'u cynllun."
Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn "ymwybodol o'r sefyllfa ariannol anodd" i'r pwll, a gwerth a phwysigrwydd y cyfleuster i Aberteifi a'r ardal.
Dywedodd llefarydd bod y cyngor yn "gweithio'n agos" gyda'r ymddiriedolaeth "i archwilio opsiynau i ddatblygu ail Ganolfan Les y Sir yn y dref".
"Byddai darparu unrhyw opsiwn a gymeradwyir yn amodol ar sicrhau'r cyllid perthnasol."