大象传媒

Tad allai waedu i farwolaeth unrhyw bryd yn diolch i roddwyr gwaed

Llun teulu yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Sarah Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Alberto Almeida yn ystyried ei deulu'n "arwyr" gan eu bod yn rhoi gwaed sy'n achub bywydau, fel ei fywyd ei hun

  • Cyhoeddwyd

Mae Alberto Almeida yn trysori pob diwrnod gyda'i deulu, achos mi allai waedu i farwolaeth ar unrhyw adeg oherwydd salwch prin.

Trallwysiadau gwaed sydd wedi achub ei fywyd dwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a hynny ar 么l dioddef gwaedlif difrifol yn sgil tiwmor sy'n agos at rai o'i brif rydwel茂au.

"Y bobl sy'n haeddu medal yw'r bobl sy'n rhoi gwaed. Nhw yw'r arwyr go iawn - a doctoriaid - achos nhw sy'n achub bywydau," meddai Alberto.

Mae ei deulu eisiau annog mwy o bobl i roi gwaed, gydag un peint yn medru achub hyd at dri bywyd.

Roedd y Sbaenwr 46 oed yn berson iach a heini meddai ei deulu.

Roedd yn weithiwr ar y ffyrdd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, ac yn chwarae p锚l-droed dwywaith yr wythnos.

Ond yn 2022 fe gwympodd yn sal yn weddol sydyn.

Dangosodd profion bod gan Alberto diwmor ar ei dwodenwm, uwchben ei goluddyn bach. Oherwydd bod y tiwmor wedi'i glymu o amgylch rhai o'i brif rydwel茂au hefyd mae llawdriniaeth i'w symud yn rhy beryglus.

Ym mis Awst y llynedd ac eto yn Chwefror eleni, cafodd waedlif difrifol a bu'n rhaid i'w deulu paratoi ar gyfer y newyddion gwaethaf.

"Mae'n anodd iawn ceisio esbonio sut wyt ti'n teimlo achos mae dy holl fywyd yn symud trwy dy feddwl mewn eiliadau.

"Ti'n pryderu am dy deulu yn fwy na dy hun," meddai Alberto.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gollodd Alberto saith uned o waed pan ddioddefodd waedlif difrifol ym mis Chwefror

Wrth i Alberto orwedd yn yr ysbyty, roedd ei deulu'n gwylio ac yn paratoi i ddweud hwyl fawr am y tro olaf.

Ond wrth i waed ffres gael ei bwmpio'n 么l i'w gorff, fe gryfhaodd gyda phob chwistrelliad.

Dywedodd ei wraig, Sarah Davies, bod yr hyn ddigwyddodd yn "anhygoel".

"Rwyt ti'n dweud hwyl fawr a'r holl bethau yma ti'n disgwyl gorfod dweud yn ystod y munudau olaf ac yna'n sydyn dyma fe'n dechrau cryfhau o flaen dy lygaid."

Mae'r teulu yn eisiau annog rhagor o bobl i roi gwaed, a chodi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod modd gwneud hynny ar 么l troi'n 17 oed.

Ffynhonnell y llun, Sarah Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Lucia (dde) flaenoriaethu rhoi gwaed dros ddechrau gyrru pan drodd hi'n 17

Dysgu gyrru sydd ar flaen meddwl llawer o bobl wrth droi'n 17, ond i ferch Alberto, Lucia, rhoi gwaed oedd ei blaenoriaeth ar 么l profiad ei thad.

"Dwin credu rhoi gwaed yw un o'r pethau mwyaf pwysig gallech chi wneud wrth droi'n 17, felly mae angen i bobl sylweddoli hyn," meddai.

I'w brawd, Eliott, doedd rhoi gwaed ddim yn rywbeth yr oedd erioed wedi ystyried o'r blaen cyn salwch ei dad.

"Rydyn ni mor lwcus bod pobl yn rhoi gwaed achos mae hynny wedi galluogi ni i gael mwy o amser gyda dad."

Dywedodd Gwasanaeth Gwaed Cymru fod stori Alberto yn enghraifft o ba mor bwysig yw rhoddion gwaed i unigolion a'u teuluoedd.

Dywedodd eu cyfarwyddwr meddygol, Dr Edwin Massey: "Mae gwaed yn arbed bywydau pobl neu鈥檔 gwella ansawdd bywydau pobl, felly mae鈥檔 hanfodol ein bod ni'n gallu darparu digon o gydrannau gwaed i gleifion Cymru.

"Mae鈥檙 broses o roi yn ddiogel iawn a phan ddaw rhywun i roi gwaed, rydyn ni'n gofyn nifer helaeth o gwestiynau am eu hiechyd er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel iddyn nhw roi ac yn ddiogel i鈥檙 rhai sy鈥檔 derbyn y gwaed.

"Unwaith y bydd y gwaed wedi鈥檌 roi, mae鈥檔 cael ei brofi am wahanol afiechydon gan gynnwys HIV a hepatitis."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn labordy Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Rhondda Cynon Taf, maen nhw'n profi'n fanwl am afiechydon

Ychwanegodd bod gwasanaethau gwaed ar draws y byd yn wynebu her anferthol i geisio ymateb i'r galw am waed.

Yng Nghymru, mae angen casglu 100,000 o becynnau gwaed bob blwyddyn, ac mae Dr Massey yn annog unrhyw un - os ydyn nhw wedi gwneud o'r blaen neu beidio - i helpu.

Yn 么l Sarah Davies, mae'r teulu'n ddiolchgar iawn i bob un sy'n rhoi gwaed, ac mae hi'n cyfaddef ei bod hi bob amser yn annog eraill i wneud yr un peth.

"Mae Alberto angen y gwaed, ac os dyw e ddim yn ei gael, dwi'n ei golli fe."

Pynciau cysylltiedig