大象传媒

Torri swyddi ym Mhrifysgol Bangor wedi 'cyfnod heriol'

Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r brifysgol yn dweud eu bod angen arbed tua 8% o鈥檜 cyfanswm costau

  • Cyhoeddwyd

Bangor yw鈥檙 brifysgol ddiweddaraf i gyhoeddi cynlluniau ar gyfer toriadau oherwydd cyfnod ariannol 鈥渉eriol鈥 yn y sector addysg uwch.

Dywedodd y brifysgol y byddai 60 i 80 o swyddi yn diflannu 鈥渄rwy drosiant staff arferol a thrwy beidio ail-lenwi swyddi gwag鈥 fel rhan o鈥檙 ymdrech i arbed 拢12.5m.

Ond yn 么l datganiad ar eu gwefan, does dim disgwyl y bydd angen cynllun diswyddo gwirfoddol ar draws y sefydliad.

Wythnos diwethaf, fe ddywedodd Prifysgol Caerdydd y byddai鈥檔 agor cynllun diswyddo gwirfoddol, wedi i Aberystwyth, Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru gyhoeddi cynlluniau i geisio lleihau costau.

Ynghyd 芒 phrifysgolion eraill, dywedodd Prifysgol Bangor ei bod yn wynebu costau uwch, ond nad yw ei hincwm yn cynyddu鈥檔 ddigonol.

Dywedodd y brifysgol eu bod wedi cydnabod ym mis Ionawr bod angen arbed tua 8% o鈥檜 cyfanswm costau.

鈥淣id yw'r incwm a ddaw o ffioedd israddedigion cartref wedi cynyddu ar yr un raddfa a chwyddiant.

"Nid yw'r cynnydd bychan i 拢9,250 yng Nghymru wedi gwneud yn iawn am y gostyngiad yn y grant addysgu a gawn鈥, meddai鈥檙 sefydliad mewn datganiad.

Hanner yr arbedion 'eisoes wedi eu gwneud'

Ychwanegodd y brifysgol bod rheolau fisa newydd i fyfyrwyr rhyngwladol wedi cael effaith.

鈥淥 gymharu 芒 llawer o brifysgolion, sy'n cael oddeutu 25% o'u hincwm o ffioedd rhyngwladol, mae Prifysgol Bangor yn llai dibynnol ar y ffynhonnell honno, gyda ffioedd rhyngwladol yn cyfrif am 16% o'n hincwm y llynedd.

鈥淔odd bynnag, mae'r rheolau fisa newydd wedi cael effaith sylweddol ar recriwtio myfyrwyr鈥.

Dywedodd llefarydd bod tua hanner yr arbedion eisoes wedi eu gwneud.

Ymhlith y mesurau eraill i dorri costau mae cynlluniau i ddileu modiwlau llai poblogaidd ar rai cyrsiau, llenwi ystafelloedd gwag yn llety myfyrwyr y brifysgol, a dim ond gwario ar 鈥測 prosiectau mwyaf hanfodol yn strategol鈥.

Dywedodd y brifysgol ei bod 鈥測n hyderus o鈥檌 gallu i lywio鈥檙 heriau ariannol a dod yn gryfach yn y pendraw鈥.