Y cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith wedi marw yn 82 oed.
Bu'n un o brif gynhyrchwyr rhaglenni teledu annibynnol yng Nghymru am ddegawdau ac roedd hi'n un o'r cynhyrchwyr benywaidd cyntaf.
Sefydlodd y cwmni Fflic yn 1982 a bu'n gyfrifol am ddod 芒 rhaglenni fel 04 Wal, Y T欧 Cymreig a Cwpwrdd Dillad i S4C.
Yn ogystal 芒 rhaglenni am dai a'u harddull bu hefyd yn gyfrifol am nifer o raglenni i ddysgwyr - fel Welsh in a Week a Cariad@iaith - a rhaglenni i blant fel Stwffio, Nics Nain a Hip neu Sgip?
'Gweledigaeth bendant'
"Hi a fy nghyflwynodd gyntaf i fyd teledu," medd y gyflwynwraig Nia Parry wrth siarad 芒 Cymru Fyw.
"Roeddwn i newydd gyrraedd y brifddinas oddeutu 2000 ac yn diwtor Cymraeg yn y Brifysgol ac wedi iddi ddod i'm gweld yn dysgu cefais gynnig cyflwyno Welsh in a Week - fe arweiniodd hynny at gyflwyno Cariad at Iaith a Cwpwrdd Dillad.
"Roedd gan Gwenda weledigaeth bendant ac roedd yna ffasiwn raen ar ei gwaith hi - roedd ei safonau cynhyrchu hi yn hynod o uchel ac fe ddysgais i lawer ganddi.
"Roedd hi'n gwbl fanwl a threfnus gyda ffeil i bob cynhyrchiad ond pobl, wrth gwrs, oedd yn bwysig iddi ac wrth wraidd pob rhaglen.
"Fe fyddai ffasiwn a steil, wrth gwrs, yn dod yn naturiol iddi.
"Mi fyddai hi'n dyrchafu pobl. I ni griw ifanc roedd hi'n fwy na b貌s - roedd hi'n fentor, yn arweinydd ac yn ein hannog ni i weithio'n galed fel hi.
"Roedd ganddi'r ddawn i weld eich cryfderau - a falle bo chi ddim yn gwybod bod nhw yna. Mae'r ffaith ei bod hi dal yn ffrind i ni yn deud llawer."
Yn ddiweddarach fe ddaeth Fflic yn rhan o gwmni Boom a Gwenda Griffith oedd yn gyfrifol am y gyfres Caeau Cymru a gynhyrchwyd gan y cwmni hwnnw.
"Pwy fyddai'n meddwl y byddai modd cyflwyno cyfres mor hardd am gaeau Cymru?" ychwanegodd Nia Parry.
"Rhaid cofio am ei chyfraniad hefyd dros yr iaith - roedd hi mor awyddus i gyflwyno Cymraeg graenus a chlir i ddysgwyr ac i blant."
'Talent amhrisiadwy'
Wrth roi teyrnged, dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C: 鈥淕yda thristwch mawr y clywsom ni am farwolaeth Gwenda Griffith.
"Roedd yn un o brif gynhyrchwyr rhaglenni teledu annibynnol yng Nghymru am dros 30 mlynedd.
鈥淲edi sefydlu cwmni Fflic, gosododd stamp a steil unigryw ei hun ar y sianel gan gynhyrchu cyfresi tai poblogaidd 04 Wal ac Y T欧 Cymreig, a oedd yn adlewyrchu ei hangerdd am bensaern茂aeth a chyfresi yn annog dysgwyr Cymraeg, fel Cariad@iaith.
鈥淩oedd ei thalent yn amhrisiadwy ac mi fydd colled fawr ar ei h么l. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Gwenda, gan ddiolch iddi am ei chyfraniad arbennig at waith S4C a dros ein gwylwyr dros nifer fawr o flynyddoedd."
Roedd Gwenda Griffith yn parhau yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.
Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth, Huw Jones: "Roedd Gwenda鈥檔 un o鈥檙 criw bach o bobl wnaeth fentro i sefydlu cwmniau teledu annibynnol yn y misoedd cynhyrfus hynny cyn i S4C fynd ar yr awyr.
"Fe fynnodd o鈥檙 cychwyn fod yna le i fod ar y sianel ar gyfer rhaglenni oedd yn dathlu diwyg, steil a safon ac fe ddangosodd dros y blynyddoedd sut oedd cyflwyno鈥檙 pynciau hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Roedd yr iaith Gymraeg ei hun yn bwysig iddi o鈥檙 cychwyn a buan y daeth yn gynhyrchydd ar gadwyn o gyfresi fu鈥檔 hyrwyddo a chefnogi ymdrechion dysgwyr o bob cefndir.
"Daeth hyn 芒 hi i gysylltiad 芒 Chanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn a derbyniodd wahoddiad i ddod yn aelod o鈥檙 Bwrdd yn 2014.
"Roedd yn parhau tan yr wythnosau olaf yn gyfrannwr llawn brwdfrydedd a syniadau gyda gweledigaeth glir yngl欧n 芒 sut oedd sicrhau lle鈥檙 Nant yng nghanol y gwaith o ledaenu鈥檙 Gymraeg.
"Byddwn yn gweld colled enfawr ar ei h么l."
Cydnabod gwasanaeth arbennig
Bu Gwenda Griffith hefyd ar fwrdd y Theatr Genedlaethol, ar fwrdd Oriel Glyn y Weddw a sefydliadau eraill.
Yn 2012 fe gafodd ei hanrhydeddu gan Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru i gydnabod gwasanaeth arbennig yn hybu pensaern茂aeth.
Yn yr un flwyddyn cafodd ei derbyn i'r wisg las yng Ngorsedd y Beirdd.
Cafodd ei magu yng Nghorwen, ac fe aeth i Ysgol Ramadeg y Merched yn Y Bala a graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Mae'n gadael g诺r Hugh, dau o blant - Dylan a Beca - ac un 诺yr, Sid.