大象传媒

Ail-gartrefu gwenyn prin wrth adnewyddu plasty Pen Ll欧n

Gwenyn Plas yn RhiwFfynhonnell y llun, Iolo Penri
  • Cyhoeddwyd

Mae 50,000 o wenyn gwyllt prin wedi cael eu symud o blasty hanesyddol ym Mhen Ll欧n wrth i waith adeiladu gael ei gwblhau.

Mae'r gwenyn wedi eu symud dros dro o safle Plas yn Rhiw wrth i鈥檙 lle gael to newydd.

Mae鈥檙 Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dechrau ail-doi Plas yn Rhiw, y tro cyntaf i waith o鈥檙 fath gael ei wneud yno ers mwy na 200 mlynedd.

Ond i gymhlethu pethau, roedd preswylwyr anarferol yn byw yn y to, ac roedd yn rhaid eu gwarchod.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwenyn m锚l duon yn brin iawn, a'r gred oedd eu bod wedi diflannu o ogledd Prydain

Roedd pum haid 鈥 cyfanswm o oddeutu 50,000 o wenyn m锚l duon Cymreig 鈥 yn byw yn nho鈥檙 adeilad.

Y gred oedd bod gwenyn m锚l duon wedi diflannu o ogledd Prydain, ac eithrio鈥檙 ardaloedd mwyaf anghysbell, ond cawsant eu hailddarganfod yn 2012, yn cynnwys yng ngogledd Cymru.

Llwyddodd gwenynwyr i鈥檞 symud i gyd i gychod gwenyn gerllaw.

Hanes Plas yn Rhiw

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y chwiorydd Eileen, Lorna a Honora Keating a brynodd Plas yn Rhiw yn 1938

Mae adeilad a gerddi hardd Plas yn Rhiw yn olrhain i鈥檙 17eg ganrif.

Adeiladwyd y to presennol ym 1820 pan aeth y Capten Lewis Moore Bennet ati i ailwampio ac ymestyn yr eiddo o ddau lawr i dri.

Mae鈥檙 plasty wedi goroesi dros y blynyddoedd yn sgil gwaith adfer gofalus a wnaed gan dair chwaer yn y 1930au, sef Eileen, Lorna a Honora Keating.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y chwiorydd wedi mynnu nad oedd neb i darfu ar y gwenyn gwyllt.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd y chwiorydd roi鈥檙 t欧 dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar yr amod y byddai鈥檙 gwenyn yn y to yn cael eu gwarchod.

Yng ngeiriau鈥檙 chwiorydd: 鈥淓in dymuniad taer yw na ddylid tarfu ar y gwenyn gwyllt, peidio 芒 chwistrellu unrhyw wenwyn rheoli pla, a chael cyngor ar sut i鈥檞 trin heb greu niwed iddynt."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy'r adeilad heb gael ei ail-doi ers 1820

Mae鈥檙 tywydd garw diweddar wedi golygu bod y to wedi dirywio a bod angen ei ail-wneud.

Bydd yn cael ei ail-doi fesul rhan, gan ail-ddefnyddio鈥檙 hen lechi pan fo modd yn ogystal 芒 4,000 o lechi Cymreig o Chwarel y Penrhyn.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y gwenynwyr yn dod 芒鈥檙 cychod gwenyn yn 么l i berllan Plas yn Rhiw, gan alluogi鈥檙 gwenyn i ddod o hyd i鈥檞 ffordd yn 么l i鈥檞 hen gartref yn y gwanwyn

Mae hi鈥檔 anarferol dod o hyd i wenyn mewn toeau ac mae hi鈥檔 fwy arferol gorfod gwneud darpariaethau ar gyfer ystlumod mewn hen dai.

Mae Plas yn Rhiw yn gartref i ystlumod lleiaf, ystlumod lleiaf uchelsain ac ystlumod barfog/Brandt, a chaiff y rhain hefyd eu gwarchod yn ystod y prosiect ail-doi.

Yn ddiweddarach yn y gwanwyn, bydd y gwenynwyr yn dod 芒鈥檙 cychod gwenyn yn 么l i berllan Plas yn Rhiw, gan alluogi鈥檙 gwenyn i ddod o hyd i鈥檞 ffordd yn 么l i鈥檞 hen gartref.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Plas yn Rhiw yn gartref i ystlumod hefyd a bydd y rhain yn cael eu gwarchod yn ystod y gwaith

Dywedodd Mary Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Eiddo ym Mhlas yn Rhiw: 鈥淕wyddom fod y chwiorydd Keating yn hoff iawn o natur a bywyd gwyllt, oherwydd fe wnaethon nhw ymgyrchu鈥檔 ddiflino i amddiffyn yr amgylchedd.

"Mae Plas yn Rhiw yn hafan i fywyd gwyllt.鈥

Pynciau cysylltiedig