Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gething yn diswyddo gweinidog am 'ryddhau gwybodaeth'
Mae'r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi diswyddo y Gweinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn gan honni ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.
Mewn cyhoeddiad syfrdanol, dywedodd Mr Gething nad oedd ganddo "ddim dewis arall" ar 么l adolygu "datgeliad diweddar o gyfathrebu".
Mae鈥檔 dilyn stori, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Nation.Cymru, a ddatgelodd fod Mr Gething wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon o sgwrs gr诺p yn ystod y pandemig.
Mae Ms Blythyn wedi ymateb trwy ddweud, "mae'r hyn sydd wedi digwydd heddiw wedi fy syfrdanu a'm trist谩u'n fawr.
"Rwy'n glir, ac wedi bod yn glir, na wnes i, ac nid wyf erioed wedi, ryddhau dim".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth y dylai Vaughan Gething ystyried ymddiswyddo, tra bod Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod "angen i Vaughan Gething brofi鈥檔 gyflym ei fod yn gallu llywodraethu Cymru".
'Cynnal hyder'
Mewn datganiad byr fore Iau, dywedodd y prif weinidog: "Rwyf heddiw wedi cymryd camau i ofyn i鈥檙 Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn i adael y llywodraeth.
"Hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith y mae鈥檙 Aelod dros Delyn wedi鈥檌 arwain yn y llywodraeth ers 2017, yn fwyaf nodedig ei harweinyddiaeth ar Gynllun Gweithredu LGBTQ+ Cymru, yr adolygiad o鈥檙 gwasanaethau t芒n ac achub, a鈥檌 gwaith gwerthfawr gyda phartneriaid cymdeithasol".
Ond mewn datganiad pellach hanner awr yn ddiweddarach, dywedodd y prif weinidog, 鈥渁r 么l adolygu鈥檙 dystiolaeth sydd ar gael i mi ynghylch y datgeliad diweddar o gyfathrebu i鈥檙 cyfryngau, yn anffodus rwyf wedi dod i鈥檙 casgliad nad oes gennyf ddewis arall ond gofyn i Hannah Blythyn adael y llywodraeth".
Ymhelaethodd, 鈥渕ae鈥檔 hollbwysig ein bod yn gallu cynnal hyder ymhlith cydweithwyr y llywodraeth fel ein bod yn gweithio fel un i ganolbwyntio ar wella bywydau pobl Cymru.
鈥淥 ystyried doniau a phrofiad Hannah, rydw i wedi bod yn glir bod yna lwybr yn 么l iddi ymgymryd 芒 swydd llywodraeth eto yn y dyfodol.
鈥淢ae鈥檙 llywodraeth wedi cynnig cefnogaeth barhaus i鈥檙 Aelod [o'r Senedd].鈥
Daeth yn amlwg yn gynharach yn y mis bod Mr Gething wedi dweud wrth weinidogion mewn gr诺p tecstio yn ystod y pandemig ei fod yn dileu negeseuon.
Bryd hynny, dywedodd y prif weinidog, oedd yn weinidog iechyd, wrth gydweithwyr y gallai鈥檙 negeseuon gael eu dal gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Roedd Ms Blythyn yn y penawdau ym mis Chwefror pan gyhoeddodd fod Llywodraeth Cymru yn cymryd rheolaeth uniongyrchol dros Wasanaeth T芒n ac Achub De Cymru oherwydd diwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod.
Mae'n cael ei thynnu oddi ar d卯m Mr Gething yn dilyn helbul o fewn Llafur ym Mae Caerdydd dros roddion dadleuol i ymgyrch arweinyddiaeth Mr Gething.
'Rhaniadau mewnol'
Ymatebodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd drwy ddweud fod 鈥減enderfyniadau Vaughan Gething yn ystod ymgyrch arweinyddiaeth Llafur yn dal i fyny ag ef.
鈥淵chydig wythnosau i mewn i鈥檞 gyfnod fel prif weinidog, mae Vaughan Gething wedi gorfod diswyddo rhywun".
Rhybuddiodd, 鈥渕ae angen i Vaughan Gething brofi鈥檔 gyflym ei fod yn gallu llywodraethu Cymru, oherwydd, fel y mae, mae ei lywodraeth yn agos at chwalu oherwydd rhaniadau mewnol.鈥
'Colli ymddiriedaeth'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, 鈥測n ei ddau fis cyntaf ers ei ethol, mae Vaughan Gething wedi tanseilio swyddfa'r prif weinidog ac wedi colli ymddiriedaeth ei blaid a鈥檙 genedl.
鈥淵n hytrach na bachu ar y cyfle i roi Cymru ar lwybr tecach a mwy uchelgeisiol, mae ei gyfnod wrth y llyw wedi鈥檌 lethu gan ddadlau, diffyg tryloywder a chwestiynau difrifol am farn.
鈥淢ae diswyddo un o鈥檌 weinidogion, a鈥檙 honiadau a鈥檙 gwrth-honiadau o鈥檌 amgylch, yn dangos unwaith eto mai blaenoriaeth y prif weinidog yw hunangadwraeth yn hytrach na lles y cyhoedd.
"Os dylai unrhyw un fod yn ystyried ei sefyllfa, y prif weinidog ei hun yw hwnnw."