Cyhuddo heddwas o ymosod ar fachgen ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae heddwas o ogledd Cymru wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i fachgen 17 oed ym Mangor.
Mae disgwyl i PC Ellis Thomas, 24, yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.
Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) fod y cyhuddiad yn ymwneud 芒 digwyddiad tu allan i glwb nos Cube ym Mangor ar 29 Ionawr 2023.
Yn 么l yr IOPC, fe ddechreuodd eu hymchwiliad i'r digwyddiad yn Chwefror 2023, wedi i Heddlu Gogledd Cymru gyfeirio'r mater atyn nhw.
Wedi ymchwiliad a gymrodd bum mis, fe anfonodd yr IOPC y dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, sydd wedi awdurdodi'r cyhuddiad yn erbyn y swyddog.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y swyddog "yn parhau ar gyfrifoldebau cyfyngedig".