Pump yn yr ysbyty ar 么l t芒n mewn llety myfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Mae pum person yn cael triniaeth ysbyty ar 么l t芒n mewn llety myfyrwyr yn Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bloc T欧 Ddewi yng nghanol y ddinas toc wedi 19:00 nos Lun.
Roedd yn rhaid i dros 100 o bobl adael yr adeilad, yn 么l y gwasanaeth t芒n.
Ychwanegon nhw bod angen achub tri myfyriwr drwy ffenestri'r llawr gwaelod ble gychwynnodd y t芒n - ni ledodd y t芒n ymhellach na'r llawr gwaelod.
Cafodd y pedwar myfyriwr ac un aelod o staff eu cludo i'r ysbyty yn sgil m芒n anafiadau ac effeithiau anadlu mwg.
Cafodd naw criw t芒n eu galw i'r safle ac roedd y t芒n wedi ei ddiffodd erbyn 21:02.
Dywedodd llefarydd ar ran Student Roost, sy'n rhedeg llety T欧 Ddewi, fod pawb yn y fflatiau "wedi'u hadleoli naill ai mewn lle arall ym mloc T欧 Ddewi neu lety myfyrwyr lleol".
Bydd ymchwiliad t芒n yn cael ei gynnal yn ystod y diwrnodau nesaf, meddai Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.