Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a lori

Ffynhonnell y llun, Google maps

Disgrifiad o'r llun, Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A473 ger pentref Efailisaf

Mae dyn 50 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A473 yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ger pentref Efailisaf toc cyn 10:00 fore Iau.

Roedd car Vauxhall a lori yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Mae teulu'r dyn fu farw yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Mae ymchwiliad i achos y gwrthdrawiad yn parhau.