Cytundeb cyflogau'n dod 芒 streiciau meddygon i ben
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon Cymru wedi derbyn cynnig diweddaraf Llywodraeth Cymru i ddod ag anghydfod dros d芒l ac amodau i ben, sy'n golygu na fydd yna ragor o streiciau.
Fe gafodd cynigion t芒l ar gyfer 2023-24 eu derbyn gan fwyafrif helaeth aelodau BMA Cymru - y corff sy'n cynrychioli meddygon yng Nghymru - a gymrodd ran mewn pleidlais.
Roedd yna gynigion ar wah芒n ar gyfer tri gr诺p meddygol - meddygon iau, meddygon SAS (Arbenigwyr, Arbenigwyr Cyswllt ac Arbenigedd) a meddygon ymgynghorol.
Bydd y cynnydd mewn cyflogau yn cael eu gweithredu ar y cyfle cyntaf.
Daw'r cyhoeddiad wrth i feddygon iau Lloegr barhau i streicio dros y ffin.
- Cyhoeddwyd7 Mehefin
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
Cafodd y bleidlais ei chynnal rhwng 12 a 26 Mehefin. O'r aelodau a gymrodd ran roedd:
96% o feddygon iau o blaid derbyn cynnydd ychwanegol o 7.4% - cyfanswm o 12.4% ar gyfer 2023-24;
86% o feddygon ymgynghorol o blaid graddfa d芒l newydd sy'n gwella'r cyflog yng nghyfnod cynnar gyrfa meddyg ac yn cynyddu'r t芒l ar gyfartaledd dros eu holl yrfa;
82% o feddygon SAS o blaid cynnydd rhwng 6.1% a 9.2%, a chynnydd ychwanegol ar gyfer meddygon arbenigol profiadol ar gytundebau cae毛dig.
'Y frwydr dros d芒l ymhell o fod drosodd'
Roedd BMA Cymru wedi annog eu haelodau i dderbyn y cynigion.
Dywedodd cadeiryddion pwyllgorau'r BMA eu bod yn "falch o allu sicrhau setliad tecach" i feddygon - cam maen nhw'n gobeithio allai fod yn help i gadw meddygon a denu mwy i Gymru.
Ond maen nhw hefyd yn rhybuddio bod "y frwydr i adfer lefelau t芒l llawn ymhell o fod drosodd".
Mae'r undeb nawr hefyd yn galw am "gyfran decach o arian y GIG ar gyfer meddygaeth deuluol i'w hachub rhag chwalu".
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan ei bod "yn falch iawn" bod y meddygon wedi derbyn y cynnig "ac y gallwn ni ddiweddu'r streiciau yng Nghymru, sydd wedi bod mor drafferthus i ofal cleifion".
"Er gwaethaf y sefyllfa ariannol fwyaf difrifol yn hanes datganoli, rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau diwedd i'r anghydfod yma.
"Mae'n golygu bod modd canolbwyntio ein holl ymdrechion nawr ar sicrhau'r canlyniadau clinigol gorau bosib i bobl yng Nghymru."
Gan ganmol gwaith "rhyfeddol" meddygon ar draws Cymru, dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething: "Rydym wedi gwrando ar feddygon a sicrhau cytundeb sy'n dod 芒'r streiciau i ben a bod meddygon yn 么l wrth eu gwaith."
Dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes y "bydd arweinwyr GIG yn croesawu'r datblygiad yma" ac yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i weithredu'r cytundeb.
"Staff yw'r peth pwysicaf yn y GIG, felly mae angen i ni oll gydweithio i sicrhau eu bod yn teimlo gwerthfawrogiad, fel y gallwn ni roi'r gofal gorau i gleifion.
"Rydym yn gobeithio y gall hyn fod yn ddechreuad newydd i bawb."
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu amseriad y trafodaethau gyda'r meddygon "trwy ryddhau'r arian dim ond pan roedd yn fanteisiol yn wleidyddol i wneud hynny".
Ychwanegodd Sam Rowlands bod Llafur Cymru "wedi achosi'r streiciau a arweiniodd at ganslo llawdriniaethau, pwysau ychwanegol ar ein GIG a straen heb angen ar feddygon".
Rhybuddiodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru yn y Senedd, y "byddwn yn 么l yma eto ymhen blwyddyn" oni bai bod llywodraeth nesaf y DU yn "ymrwymo i ariannu teg i Gymru".
Ychwanegodd: "Dim ond wedyn y gallwn roi'r gwasanaeth iechyd ar sylfaen gynaliadwy i fynd i'r afael 芒 heriau'r 21ain ganrif."