Arweinydd cyngor yn ymddiswyddo wedi ffrae am gasglu biniau
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi ymddiswyddo yn sgil ymateb chwyrn i gynlluniau casglu gwastraff yn yr ardal.
Fe wnaeth yr awdurdod lleol gyhoeddi y byddai Ian Roberts o鈥檙 Blaid Lafur yn gadael ei swydd wedi ychydig dros bum mlynedd yn y r么l.
Mae'n dilyn gwrthwynebiad eang i'r newid arfaethedig gan y cyngor - sydd dan arweiniad Llafur - i gasglu biniau bob tair wythnos yn lle bob pythefnos.
Dywedodd Cyngor Sir y Fflint y byddai'r dirprwy arweinwyr Dave Hughes a Christine Jones yn ymgymryd 芒'i r么l dros dro.
Mae disgwyl y bydd y drefn newydd o ran casgliadau yn cael ei gyflwyno, gydag amserlenni i'w cyhoeddi'n ddiweddarach.
Mewn datganiad yn cadarnhau ymddiswyddiad y Cynghorydd Roberts, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor:聽鈥淐adarnhawyd bod arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi ymddiswyddo ar unwaith.
鈥淏ydd yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd dros ward Castell y Fflint."
Cafodd deiseb yn erbyn newidiadau i gasgliadau biniau ei harwyddo gan dros 3,300 o bobl cyn i bwyllgor craffu鈥檙 amgylchedd a鈥檙 economi gyfarfod ddydd Mawrth.
Daeth ar 么l i bryderon godi y byddai pentyrrau mawr o sbwriel yn cael eu gadael ar y strydoedd, gan achosi problemau gyda drewdod a llygod mawr.
'Iaith y ddadl yn peri pryder'
Wrth drafod ymateb y cyhoedd i'r newidiadau mewn cyfarfod craffu ddydd Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Roberts fod yr "iaith a ddefnyddiwyd yn ystod y ddadl hon yn peri pryder mawr".
Dywedodd fod rhywun wedi bygwth bywyd un swyddog.
鈥淔el aelodau ar draws y siambr hon, ni ddylem fod yn bwydo鈥檙 t芒n yma ymhellach,鈥 meddai.
鈥淣id yw鈥檙 cynnig hwn am newid bywyd.鈥
Cafodd y Cynghorydd Roberts ei benodi'n arweinydd y cyngor yn wreiddiol ym mis Ebrill 2019, gan olynu Aaron Shotton.
Mae'r Cynghorydd Roberts a'r gr诺p Llafur wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
- Cyhoeddwyd16 Chwefror