Trysor prin o'r Oes Efydd i'w gweld yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf yn gyhoeddus, mae trysorau prin o鈥檙 Oes Efydd wedi cael eu harddangos yn Amgueddfa Ceredigion.
Mae鈥檙 celciau, sef dros 50 o eitemau a gafodd eu canfod yn Llangeitho yn 2020, yn cynnwys offer efydd, arfau ac addurniadau corff.
Daw鈥檙 arddangos wedi i Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion gyrraedd eu targed ariannol er mwyn prynu鈥檙 eitemau a鈥檜 cadw yn y sir.
Dywedodd Cyril Evans, Cadeirydd Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion fod "nifer o forthwylion, topiau'r morthwyl eu hunain, wedyn arfau a hefyd mwclesi a chlustlysau corff" ymhlith y trysorau o 3,000 o flynyddoedd yn 么l.
鈥淢aen nhw鈥檔 brin ofnadwy ac wrth gwrs maen nhw鈥檔 rhan o鈥檔 treftadaeth ni,鈥 meddai.
鈥淏eth fyddai鈥檔 ddiddorol darganfod yw ble gaethon nhw eu gwneud, gan bwy ac o bosib pam gaethon nhw eu cuddio hefyd.鈥
Cafodd y trysorau eu darganfod yn Llangeitho yn 2020 gan ddau oedd yn defnyddio datgelyddion metel.
Dywedodd y crwner fod y gwrthrychau yn "drysor" yn unol 芒'r Ddeddf Trysor, gyda chyfle鈥檔 dod i鈥檞 prynu a鈥檜 cadw鈥檔 lleol.
'Ennill medal aur'
Bellach, mae'r celciau ar gael yn Amgueddfa Ceredigion wedi i Gyfeillion Amgueddfa Ceredigion gyrraedd targed ariannol o 拢4,200 i brynu鈥檙 trysorau.
Dywedodd Bronwen Morgan, Llywydd Cyfeillion yr Amgueddfa fod y swm wedi鈥檌 godi "dros nos bron".
鈥淩oedd yr arian yn llifo ymhellach na Cheredigion, o Gymru ben baladr a dros y ffin, oherwydd eu pwysigrwydd archeolegol nhw, eu pwysigrwydd nhw yng nghyd-destun hanes yr ardal ond hanes ehangach Cymru,鈥 meddai.
鈥'Dw i nawr yn meddwl, pan 鈥榙an ni鈥檔 ganol y gemau olympaidd a鈥檙 s么n am y gwahanol fedalau, 'dw i鈥檔 credu mai medal aur enillodd Ceredigion pan ddaeth y celciau o鈥檙 oes efydd yma i鈥檙 golwg.鈥
Mae鈥檙 celciau i鈥檞 gweld yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, lle bydd arddangosfa yn cael ei chreu yn y dyfodol fydd yn nodi鈥檙 hanes.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf