大象传媒

Gwaith adfer i 'sicrhau dyfodol' cloc Rhuthun

Cloc Rhuthun
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i'r gwaith ar gloc y dref ddechrau ym mis Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae gwaith adfer "sylweddol" am ddechrau ar un o dirnodau mwyaf adnabyddus Rhuthun yn dilyn ymgyrch leol.

Mae cloc y dref - Cofgolofn Peers yw ei enw swyddogol - wedi sefyll yng nghanol Sgw芒r San Pedr ers 1883.

Nad oes gwelliannau wedi bod i'r adeilad Gradd II "ers o leiaf 50 mlynedd" ac o ganlyniad "mae darnau o gerrig wedi disgyn i ffwrdd a phlanhigion yn tyfu allan ohono" erbyn hyn.

Ond nawr, ar 么l i bwyllgor adfer gael ei sefydlu gan aelodau o'r gymuned oedd yn pryderu am gyflwr y cloc yn 2021, mae gwaith ar y gweill o'r diwedd i "sicrhau ei ddyfodol".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i'r waith para rhwng wyth a 12 wythnos

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Awst,ac mae disgwyl iddo bara am gyfnod rhwng wyth a 12 wythnos, yn 么l ysgrifennydd y pwyllgor adfer, Rob Price.

Bydd sgaffaldiau o gwmpas y cloc yn ystod y cyfnod hwnnw, meddai, ond ni fydd effaith ar y l么n gerllaw.

"Mae 'na dipyn o waith angen ei wneud arno fo a fydd rhaid iddo fo gael ei gwblhau erbyn mis Hydref oherwydd y tywydd," dywedodd.

"Mae'r gwaith cerrig angen ei atgyfnerthu, mae 'na blanhigion yn tyfu allan ohono fo, mae angen ail-wneud y mecanwaith tu fewn i'r cloc a'r deialau - dyna'r prif bethau.

"Mae fumes exhaust ceir wedi achosi difrod hefyd, coelio neu beidio.

"Bydd y cafn ar flaen y cloc yn cael ei droi fewn i fainc hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd y cloc ei ddylunio gan John Douglas, pensaer enwog o Gaer

Bydd y gwaith yn costio o gwmpas 拢140,000, gan ddefnyddio arian o nawdd i'r cyngor dref, Cronfa Fferm Melin Wynt Clocaenog a'r cyngor sir, a gafodd 拢10.95 miliwn o'r Gronfa Ffyniant Bro yn 2023.

"Achos does dim byd mawr wedi cael ei wneud iddo ers dros hanner can mlynedd mae o angen dipyn o sylw 诺an i fod yn iawn am hanner can mlynedd arall," meddai Rob Price.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cloc yn gofeb i Joseph Peers a oedd yn ynad heddwch yn y 19fed ganrif

Mae'r pwyllgor adfer yn gobeithio y bydd y gwaith - a fydd yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ddinbych, sy'n berchen ar yr adeilad - yn sicrhau dyfodol y cloc ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae o 'di bod yna am 150 mlynedd," meddai Mr Price.

"Mae o reit yn ganol y dre' ar y sgw芒r - mae pobl yn cerdded heibio o hyd.

"Wnaeth y cloc stopio ychydig o wythnosau'n 么l ac oedd pawb yn holi amdano fo - mae pobl wedi tyfu fyny o gwmpas o.

"Mae o just angen sylw i wneud si诺r fod o'n parhau mewn cyflwr go lew am y degawdau i ddod."

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig