大象传媒

'Cyffro yn y garfan' cyn i Gymru wynebu Gwlad yr I芒

Craig Bellamy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rheolwr Craig Bellamy yn "llawn cynnwrf" wrth dreulio mwy a mwy o amser gyda'r garfan

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Craig Bellamy gerdded i mewn i gynhadledd y wasg yn Stadiwm Laugardalsvollur yn Reykjavik nos Iau, gyda gw锚n lydan ar ei wyneb mae鈥檔 gofyn i鈥檙 newyddiadurwyr: "Pawb yn iawn?"

Tawelwch.

"Ydych? Na? Oes na ateb?"

Dyma Bellamy y rheolwr. Mae鈥檔 hawlio sylw ac yn barod i herio. Mae yna barchedig ofn.

Y natur di-flewyn ar dafod hwn sydd wedi dal dychymyg, ynghyd 芒'i arddull ymosodol ar y cae. Mae'r cefnogwyr yn gwrando, yn gwylio ac yn gwerthfawrogi ei weledigaeth.

"Dw i wedi fy nghyffroi. O'n i'n gwbod bod y criw yma yn un da. O'n i'n llawn cynnwrf wedi'r garfan gyntaf gyda'n gilydd ond mae wedi codi i lefel arall y tro hyn."

Ffitrwydd Ben Davies yn 'berffaith'

Disgrifiad,

Ben Davies: 'Ni'n credu ni'n gallu bod yn well eto'

Mae鈥檙 chwaraewyr yn rhannu'r un angerdd cyn eu g锚m yn erbyn Gwlad yr I芒 nos Wener.

Mae Ben Davies - y capten - yn hen ben erbyn hyn. Ddeuddeg mlynedd yn cynrychioli ei wlad, Bellamy yw ei bedwerydd rheolwr ac mae'r g诺r newydd wrth y llyw at ei ddant - yn bendant.

鈥淔el carfan, da ni鈥檔 edrych ymlaen at y g锚m. Ni鈥檔 credu ni wedi gweithio鈥檔 galed wythnos 鈥榤a a ni鈥檔 barod i 鈥榳are nawr.

"Ni 鈥榙i edrych nol ar y gemau, beth ni di neud yn dda a be ni鈥檔 gallu neud yn well. Fi鈥檔 credu bod e鈥檔 ffordd newydd o 鈥榳are a mae fe鈥檔 ffordd o 鈥榳are ble mae rhaid i ni fod yn hyderus a da ni鈥檔 cael hynny wrth yr hyfforddwr.

"'Da ni'n mynd i geisio creu siawnsys a sgorio goliau. Ar adegau bydd e bach yn risky ond mae e鈥檔 neis i 鈥榳are p锚l-droed ble da ni ar y droed flaen.鈥

Dyw'r amddiffynwr 31 oed ddim wedi bod yn chwarae yn gyson dros ei glwb Tottenham Hotspur y tymor hwn felly oes 'na farc cwestiwn yngl欧n 芒'i ffitrwydd?

Na - mae鈥檔 "berffaith", meddai 芒 gwen ddireidus.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae g锚m nos Wener yn cael ei chwarae yn Stadiwm Laugardalsvollur, Reykjavik

Adeiladu ar y pedwar pwynt gafon nhw ym nwy g锚m gyntaf eu hymgyrch yng Nghyngrair y Cenhedloeddd yw鈥檙 nod i Gymru dros y dyddiau nesaf.

Gwlad yr I芒 i ddechrau, ac yna'n 么l i Gaerdydd i herio Montenegro eto nos Lun.

Pa obaith felly yn y g锚m gyntaf? Dwi鈥檔 holi newyddiadurwr lleol, Gudmundur Asgeirsson.

"Mae llawer wedi newid ers i Wlad yr I芒 fynd i鈥檙 Ewros yn 2016 a Chwpan y Byd yn 2018," meddai. "Mae tipyn o ailadeiladu wedi bod - ma' 'na d卯m newydd ar y cyfan.

"Mae 'na deimlad positif o gwmpas y garfan eto. Mae llawer wedi digwydd oddi ar y cae hefyd, ond gobeithio allwn ni gael y dyddiau da yn 么l eto."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna gyffro hefyd ymhlith carfan Gwlad yr I芒, medd y newyddiadurwr Gudmundur Asgeirsson

Fe fydd cefnogwyr Cymru'n gobeithio na fydd y dyddiau da yna yn dychwelyd i'r gwrthwynebwyr yn rhy fuan.

Mae hi鈥檔 10 mlynedd ers i Gymru wynebu Gwlad yr I芒 ddiwethaf. Buddugoliaeth o 3-1 i鈥檙 t卯m cartref yng Nghaerdydd oedd hi bryd hynny.

Prin yw'r rheini sy'n cofio'r sg么r ond fe fydd y mwyafrif yn cofio athrylith Gareth Bale, yn gwibio i lawr yr ystlys o'i hanner ei hun cyn rhwydo.

Fe fyddai g么l ac antur debyg nos Wener yn plesio pawb.