Gwahardd dyn o siopau Morrisons ar ôl ei gyhuddo ar gam o ladrata
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-swyddog heddlu o Gasnewydd wedi galw am ymddiheuriad gan Morrisons wedi iddo gael ei wahardd o bob cangen ym Mhrydain ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o ladrata.
Yn ôl Jez Daniels, roedd staff y siop yn Nhrefgwilym wedi ei dargedu oherwydd ei hil.
Dywedodd Mr Daniels ei fod yn gwisgo gorchudd wyneb oherwydd y cyfyngiadau Covid oedd yn weithredol ar y pryd a bod staff wedi "cymryd yn ganiataol ei fod o yno i ddwyn" oherwydd lliw ei groen.
Mae'r cwmni archfarchnad bellach wedi dod â'r gwaharddiad i ben, ond doedden nhw ddim am wneud sylw ar y mater.
'Wedi penderfynu fy mod i'n lleidr'
Yn ôl Mr Daniels, mae o'n teimlo yn "anghyfforddus iawn" mewn archfarchnadoedd wedi'r profiad.
Dywedodd fod y gwaharddiad wedi digwydd yn sgil ymweliad â siop Morrisons yn Nhrefgwilym, Casnewydd ym mis Chwefror 2022.
"Ro'n i'n gwisgo gorchudd wyneb - yn unol â pholisi'r siop, a rheolau Llywodraeth Cymru, ond ro'n i'n gwybod yn syth eu bod nhw wedi penderfynu fy mod i'n lleidr," meddai.
Esboniodd ei fod wedi bwriadu prynu gwin a siocled i'w blant, ond ei fod wedi sylwi ar aelodau staff yn ei ddilyn.
"Nes i feddwl, wel os ydw i'n parhau gyda'r hyn o'n i'n bwriadu ei wneud, yna bydd staff yn sylweddoli nad ydw i yma i ddwyn, a ga’ i lonydd."
Dywedodd ei fod wedi ceisio dal ei fag siopau mor agored â phosib i ddangos nad oedd yn ceisio cuddio unrhyw beth.
"Fe ddaethon nhw (y staff) ata i - un pob pen i'r llwybr - a ro'n i wedi dychryn."
Fe benderfynodd ei fod am adael y siop, a dyna pryd aeth aelod o staff ato i ddweud ei fod wedi ei wahardd a bod angen iddo adael ar unwaith.
"Ro'n i wedi fy siomi. I fod yn onest, dwi'n meddwl eu bod nhw wedi gweld dyn du gyda gorchudd wyneb ac wedi cymryd yn ganiataol ei fod o yma i ddwyn."
Fe wnaeth Mr Daniels gysylltu gyda phencadlys Morrisons, ac mae ´óÏó´«Ã½ Cymru wedi gweld e-bost gan y cwmni sy'n dweud nad oedd croeso iddo yn unrhyw un o siopau'r cwmni, a hynny oherwydd "ei ymddygiad diweddar".
Mewn dogfennau eraill sydd wedi eu gweld gan y ´óÏó´«Ã½, mae aelod o staff yn honni fod Mr Daniels wedi "gweiddi geiriau bygythiol", tra bod gweithiwr arall yn dweud ei fod wedi dechrau amau Mr Daniels ar ôl iddo "ddod i mewn i'r siop heb fasged na throli" cyn "mynd yn syth i'r adran alcohol".
Cafodd Mr Daniels ei gyhuddo hefyd o estyn gwerth £200 o wirodydd, rhywbeth y mae o yn ei wadu.
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022
"Yr hyn fyddwn i yn hoffi ei weld nawr yw Morrisons yn cydnabod bod eu staff yn anghywir," meddai Mr Daniels.
"Ers y digwyddiad dwi wedi siarad gyda nifer o bobl - pobl gwyn - ac wedi egluro'r hyn yr oedd Morrisons yn ei ddisgrifio fel 'ymddygiad amheus', ac maen nhw'n dweud 'ond dwi'n gwneud hynny, a dwi erioed wedi cael fy stopio'."
Ar ôl gwylio lluniau camerâu cylch cyfyng o'r digwyddiad, dywedodd Mr Daniels ei fod yn teimlo fod y dystiolaeth yn cyfiawnhau ei gwynion.
"Doedd y lluniau ddim yn fy nangos yn bod yn ymosodol na chwaith gyda gwerth £200 o wirodydd yn fy meddiant."
Ar ôl cyfeirio Morrisons at y lluniau fideo, fe wnaeth y cwmni gydnabod y gwahaniaethau rhwng cynnwys y fideo a datganiadau'r staff.
Er eu bod wedi dod â gwaharddiad Mr Daniels i ben dros e-bost, roedden nhw'n dal i gyhuddo Mr Daniels o ymddwyn mewn modd amheus, ac o fod yn ymosodol.
Dywedodd y cwmni hefyd nad oedd unrhyw gymhelliant hiliol y tu ôl i'r gwyn gwreiddiol, tra bod aelod o staff wedi gwadu eu bod wedi ymddwyn yn hiliol.
Mae Mr Daniels yn galw ar y cwmni i ymddiheuro ac i gydnabod yr hyn aeth o'i le.