大象传媒

Canslo'r Fedal Ddrama: Galw am eglurhad gan yr Eisteddfod

Disgrifiad,

Yr ymateb ar y Maes i'r dirgelwch dros atal y Fedal Ddrama

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw am fwy o eglurhad gan yr Eisteddfod yngl欧n 芒 pham y cafodd y Fedal Ddrama ei hatal eleni.

Y fedal oedd i fod yn brif seremoni yn y Pafiliwn dydd Iau, cyn iddi gael ei chanslo.

Mae'r penderfyniad wedi "peri dryswch" ar faes yr Eisteddfod, yn 么l Cefin Roberts, cyn-enillydd y Fedal Ddrama a chyn-gyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol.

Yn siarad ar Dros Frecwast dydd Gwener, dywedodd Mr Roberts ei bod hi'n "ofynnol i'r Eisteddfod roi dipyn bach mwy o eglurhad i bobl erbyn hyn".

Mae hi wedi dod i'r amlwg hefyd nad oedd y cystadleuwyr eu hunain wedi cael gwybod y rheswm, a'u bod nhw wedi derbyn yr un wybodaeth 芒 phawb arall.

Mewn datganiad brynhawn Gwener, dywedodd yr Eisteddfod: "Rydyn ni鈥檔 ymwybodol bod nifer o s茂on ar hyd a lled y Maes yngl欧n 芒 chystadleuaeth y Fedal Ddrama.

"Nid ydyn ni鈥檔 gallu gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater, gan fod manylion ein cystadlaethau鈥檔 gyfrinachol."

'Diffyg parch'

Yn y cyfamser, mae'r actor Wyn Bowen Harries wedi dweud ei fod yn un o'r rhai a oedd wedi cystadlu yn y Fedal Ddrama eleni.

Mewn neges ar ei gyfrif Facebook personol, dywedodd: "Os ydw i neu unrhyw awdur arall wedi tramgwyddo mewn unrhyw ffordd, dylid datgan pam.

"Os na, yna teimlaf fod hyn yn gryn ddiffyg parch at waith pawb yn y gystadleuaeth."

Mae'n dweud ei fod wedi derbyn y feirniadaeth ar e-bost gan yr Eisteddfod ddydd Iau ac wedi penderfynu cyhoeddi honno ar ei dudalen Facebook.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae "hi'n ofynnol i'r Eisteddfod roi dipyn bach mwy o eglurhad i bobl erbyn hyn," meddai Cefin Roberts

Daeth y penderfyniad i ganslo'r seremoni ar 么l y broses o feirniadu'r gystadleuaeth, medd y brifwyl mewn datganiad ddydd Iau.

Roedd Mr Roberts - un o gyfarwyddwyr artistig Ysgol Glanaethwy - yn y Pafiliwn pan ddaeth y cyhoeddiad fod y Fedal Ddrama wedi'i ganslo.

"Oedd yr awyrgylch yn od iawn yna, fel 'sa ni'n profi rhyw dalp o hanes, ond eto dim math o eglurhad," meddai ar Dros Frecwast.

"Gwacter o'n i'n deimlo'n fwyaf, siom yn amlwg, ond dwi'n meddwl fel oedd yr amser yn mynd yn ei flaen fod pawb yn teimlo dryswch."

Dywedodd fod angen mwy o wybodaeth gan yr Eisteddfod am y penderfyniad.

"Yn y datganiad wnaethon nhw, oedd o'n teimlo fel bod nhw am adolygu'r broses o gystadlu yn llwyr o hyn ymlaen yn yr adran lenyddol.

"'Swn i'n tybio fod 'na rai pobl erbyn hyn ar ganol creu [ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf] a ddim yn si诺r iawn be sy'n mynd i ddigwydd i'r ochr llenyddol o'r Steddfod.

"Dyna ma' pobl angen ei wybod fwy na dim."

'Geiriad niwlog iawn'

Ychwanegodd Mr Roberts "fedra rhywun 'mond damcaniaethu" pam fod y Fedal Ddrama wedi'i hatal.

"Mae'r geiriad yn niwlog iawn, iawn, iawn yn y datganiad," meddai.

"Mae o 'di peri dryswch i bawb neu fyswn i ddim yn ei drafod r诺an.

"Mae rhaid i'r Steddfod sylweddoli fod hwn ddim am fynd o 'na nes ceith y gynulleidfa well eglurhad, a ti ddim isio hynna'n destun trafod am weddill yr wythnos ar gae Steddfod, bod rhywun yn meddwl 'be sydd wedi digwydd?'

"Achos mae'r pethau rhyfedda wedi cael eu dweud ac felly mae isio rhoi stop ar y rheiny hefyd."

Disgrifiad,

Yn siarad ar Dros Frecwast yn ddiweddarach dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses: "Mae 'na ddatganiad allan 'na.

"Fel nodon ni, fe wnaethon ni ei dilyn, aethon ni trwy'r broses ac fe ddaethpwyd hi'n amlwg bod rhaid 'neud penderfyniad i atal y gystadleuaeth.

"Fel y'n ni'n 'neud pob blwyddyn, fe fyddwn ni'n adolygu ein prosesau a'n gweithdrefnau ni fel rhan o'r adolygiad i'r penderfyniad y bu'n rhaid i ni wneud eleni."

Dim addewid y bydd eglurhad

Pan holwyd Ms Moses a oedd y diffyg eglurhad yn ychwanegu at sibrydion a dyfalu am y rhesymau posib, dywedodd fod "nifer o bobl wedi rhoi rhyw senarios i fi ar hyd y Maes ddoe".

"Mae 'na ddrama yn cael ei greu ar y Maes 'ma," meddai.

"Wi'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n parchu'r broses a hefyd parchu cyfrinachedd, a bo' ni fel corff wedyn yn gallu adolygu ac yn gallu rhoi pethau yn eu lle i sicrhau bod 'na ddyfodol llewyrchus i'r ddrama."

Holwyd Ms Moses hefyd a fyddai esboniad maes o law, ond ni wnaeth hi'n addewid hwnnw.

Dywedodd: "Mi fyddwn ni'n gwarantu bod ein prosesau ni yn diogelu'r dyfodol fel nad oes rhaid gwneud penderfyniadau fel hyn eto gobeithio."

Disgrifiad,

Arwyn Jones, oedd yn arwain yn y Pafiliwn, fu'n cyhoeddi'r newyddion o'r llwyfan

Mewn datganiad dydd Iau, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar 么l cwblhau鈥檙 broses o feirniadu鈥檙 Fedal Ddrama, daethpwyd i鈥檙 penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni.

"Yn ogystal, ni fydd beirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.

"Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn."

Ychwanegodd yr Eisteddfod na fyddan nhw na'r beirniaid yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater.