大象传媒

Dwy fenyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad

y lon lle oedd y digwyddiad
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i safle'r gwrthdrawiad toc wedi 13:40 brynhawn dydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy fenyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Barri brynhawn dydd Sadwrn.

Cafodd dau ddyn eu cludo i'r ysbyty, ac mae'n debyg fod un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Cafodd yr heddlu eu galw i safle'r gwrthdrawiad toc wedi 13:40 brynhawn dydd Sadwrn, yn dilyn adroddiadau o ddau yrrwr wedi gwrthdaro ar yr A4050.

Mae'r l么n ar gau i'r ddau gyfeiriad o gyffordd Port Road East a Ffordd Gyswllt Doc y Barri i Ganolfan Arddio Pugh.

Mae disgwyl i'r l么n fod ar gau nes o leiaf 2:00 fore dydd Sul.

Mae'r heddlu yn cynghori teithwyr i osgoi'r ardal.