大象传媒 Cymru i dorri hyd at 50 o swyddi i wneud arbedion
- Cyhoeddwyd
Mae 大象传媒 Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn torri rhwng 45 a 50 o swyddi wrth i'r gorfforaeth geisio gwneud arbedion o tua 拢700m ar draws y DU.
Bydd hyd at 30 o'r swyddi hynny yn staff golygyddol a chynhyrchu, a hyd at 20 yn yr adran gweithrediadau (operations).
Bydd y 大象传媒 yn agor ffenestr diswyddiadau gwirfoddol yn fuan er mwyn ceisio adnabod staff fyddai'n fodlon gadael.
Yn ogystal 芒 gweithlu llai, mae prosiectau ar y gweill i nodi arbedion effeithlonrwydd ar draws y busnes.
Bydd 大象传媒 Cymru hefyd yn "yn ystyried newidiadau i gynnwys er mwyn rhyddhau mwy o adnoddau i fuddsoddi yn anghenion cynulleidfaoedd o Gymru".
'Gorfod gwneud arbedion'
Fe gyhoeddodd cyfarwyddwr cyffredinol y 大象传媒, Tim Davie, yn gynharach eleni fod yn rhaid i'r 大象传媒 wneud arbedion o tua 拢700m.
Bydd 拢15m o'r cyfanswm hwnnw yn dod o doriadau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Fel rhan o'r arbedion hynny mae 大象传媒 Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn torri'r hyn sy'n cyfateb i rhwng 25 a 30 o swyddi llawn amser yn yr adrannau golygyddol a chynhyrchu.
Mae 542 o staff golygyddol - rheiny sy'n gweithio i'r adrannau newyddion - a chynhyrchu yn gweithio i 大象传媒 Cymru.
Bydd hyd at 20 o swyddi yn cael eu colli yn adran gweithrediadau 大象传媒 Cymru hefyd - o weithlu o 204.
Dywedodd cyfarwyddwr 大象传媒 Cymru, Rhuanedd Richards: "Mae 大象传媒 Cymru, fel gweddill y Gorfforaeth yn gorfod gwneud arbedion i gyrraedd y targed cyffredinol a osodwyd gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol ym mis Mawrth.
"Mae angen yr arbedion hyn i sicrhau bod y 大象传媒 yn gweithredu o fewn y gyllideb ac yn mynd i鈥檙 afael 芒 dulliau cynhyrchu a chomisiynu mewn diwydiant sy鈥檔 esblygu ac yn newid yn barhaus.
鈥淭ra鈥檔 cydnabod yr heriau, mae ein huchelgais creadigol yn parhau, sef sicrhau gwerth ffi鈥檙 drwydded ac addasu i anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru sy鈥檔 newid yn barhaus.
Mae hyn yn golygu buddsoddi mewn mwy o gynnwys o Gymru ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein sef 大象传媒 iPlayer, 大象传媒 Sounds, a鈥檔 gwasanaethau newyddion a chwaraeon ar-lein."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2022