Dyn yn cyfaddef taflu sylwedd cyrydol ar ddyn arall ger Llandeilo
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 23 oed wedi pledio'n euog i ddefnyddio sylwedd cyrydol i ymosod ar ddyn ger Llandeilo.
Ymddangosodd Jivan Dean yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher, gan gyfaddef i ddau gyhuddiad yn dilyn y digwyddiad ar safle 'Tipi Valley' ar 14 Awst.
Cyfaddefodd Dean ei fod wedi taflu sylwedd cyrydol - sef sodiwm hydrocsid - gyda鈥檙 bwriad i losgi, anafu, anffurfio neu anablu ei ddioddefwr, Raven Riley.
Fe gyfaddefodd hefyd i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol i Mr Riley.
Lansiodd Heddlu Dyfed-Powys ap锚l yn dilyn yr ymosodiad, gan gyhoeddi llun o Jivan Dean, ac fe gafodd ei arestio yn fuan wedyn.
Clywodd y llys bod y dioddefwr wedi treulio rhai diwrnodau yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.
Bydd Dean yn cael ei gadw yn y ddalfa tan iddo gael ei ddedfrydu ar 22 Hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst