Plaid Cymru yn colli hen sedd Llinos Medi AS ar Gyngor M么n
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi colli cyn-sedd yr Aelod Seneddol Llinos Medi ar Gyngor M么n.
Cafodd yr aelod annibynnol, Kenneth Pritchard Hughes ei ethol ddydd Iau i gynrychioli ward Talybolion.
Cafodd is-etholiad ei gynnal wedi i'r cynghorydd blaenorol, Llinos Medi gael ei hethol yn AS newydd Ynys M么n yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.
Yn dilyn hynny, gadawodd ei r么l fel cynghorydd ac arweinydd Cyngor Ynys M么n.
Fe enillodd y Cynghorydd Pritchard Hughes - sydd eisoes wedi cynrychioli'r awdurdod lleol yn y gorffennol - yr is-etholiad, gyda 678 o bleidleisiau.
Ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Arthur Williams ddaeth yn ail, gyda 518 o bleidleisiau.
Mae ward Talybolion yn cynrychioli gogledd orllewin Ynys M么n, sy'n cynnwys pentrefi Llannerchymedd, Rhosgoch, Llanddeusant a Llanfaethlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd26 Medi