大象传媒

Iechyd meddwl: Clwb Rygbi Nant Conwy'n annog trafodaeth

Disgrifiad,

Carwyn Jones sy'n cofio ei ffrind Aaron Newman, fu farw yn Rhagfyr 2023 ar 么l dioddef am gyfnod byr gyda phroblemau iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn cynnwys gwybodaeth allai beri gofid.

Mae un o glybiau rygbi鈥檙 gogledd wedi sefydlu gr诺p i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl.

Bwriad aelodau Clwb Rygbi Nant Conwy ger Llanrwst ydy ei gwneud hi鈥檔 haws i chwaraewyr, cefnogwyr ac aelodau o鈥檙 gymuned ehangach i drafod materion sy鈥檔 eu pryderu.

Roedd un o鈥檜 chwaraewyr, Aaron Newman, wedi lladd ei hun yn 20 oed y llynedd.

Yn 么l ei deulu a鈥檌 ffrindiau mae angen i bobl fedru siarad yn agored am eu problemau.

'Hogiau rygbi angen dangos cryfder'

Yn 么l un o ffrindiau a chyd-chwaraewyr Aaron, doedd dim awgrym fod ei ffrind yn dioddef pan welson nhw ei gilydd ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth.

"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd," meddai Carwyn Jones.

"Blwyddyn 'di mynd yn sydyn ond 'dan ni鈥檔 colli Aaron a 'dan ni鈥檔 ei golli fo wrth y bwrdd, pan 'dan ni鈥檔 cael peint ar nos Sadwrn, neu yn y group chat pan o鈥檇d o鈥檔 gyrru pethau gwirion mewn i ni, neu tecst funny a ballu.

鈥淒oes yna neb yn gallu deud os ydy rhywun yn stryglo achos does yna neb wirioneddol yn gwybod beth sy鈥檔 mynd 'mlaen ym mhennau聽lot o bobl. Dyna sy鈥檔 drist.

"Mae鈥檔 ofnadwy bod hogyn fatha Aaron yn methu agor fyny a d'eud wrth ei ffrindiau be' mae o鈥檔 ei boeni am, be' sy鈥檔 mynd o鈥檌 le yn ei fywyd ac mae鈥檔 drist ofnadwy be' wnaeth o yn diwedd.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe welodd Carwyn Jones ei ffrind Aaron am y tro olaf ar noson allan ym Mangor

Yn 么l Carwyn Jones mae鈥檙 "tab诺" sy鈥檔 dal ynghlwm ag iechyd meddwl yn ei gwneud hi鈥檔 anodd siarad yn agored.

鈥淚 ddynion yn enwedig mae agor fyny yn gallu dangos gwendid, yn enwedig i hogiau rygbi gan fod y g锚m mor gorfforol, bo' ti angen dangos dy gryfder.

鈥淒wi鈥檔 meddwl bod agor fyny yn bwysig ond dwi ddim yn meddwl bod pobl yn gwbo' pa mor bwysig 'di o.

鈥淢a' pawb yn stryglo 鈥 mae hynna鈥檔 ffaith a dydi pawb ddim yn agor fyny a dwi鈥檔 meddwl bod hynna yn arwain at bethau drwg.鈥

'Ceisio torri鈥檙 stigma'

Mae tad Aaron, Phillip Newman yn aelod o bwyllgor Dal Dy Dir fydd yn ceisio helpu pobl i chwilio am help.

Yn 么l Mr Newman roedd Aaron yn gymeriad mawr, hwyliog a direidus ac yn chwaraewr caled a dewr, ond roedd ganddo 鈥渆i frwydrau ei hun鈥 oddi ar y cae.

鈥淩oeddem ni鈥檔 gwybod am rai problemau ac mi gafodd ei anfon i gael ychydig o gymorth," meddai.

鈥淎 dwi鈥檔 meddwl bod hynny鈥檔 mynd yn groes i gymeriad Aaron - chwilio am gymorth efo rhywbeth roedd o falle鈥檔 teimlo oedd yn fater gwirion nad oedd angen poeni amdano.

鈥淎 dwi鈥檔 teimlo ei fod o鈥檔 gyndyn o gymryd rhan yn y broses yn llawn.

鈥淢ae鈥檙 gwaith 'den ni鈥檔 wneud yn Nant Conwy yn ceisio torri鈥檙 stigma yna ac annog pobl i chwilio am help a rhoi gwybod iddyn nhw lle i gael cymorth, a defnyddio鈥檙 cymorth hwnnw鈥檔 llawn.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Phillip Newman eu bod fel teulu wedi eu 'dryllio' gan farwolaeth ei fab Aaron

Mae ffigyrau鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu bod cyfradd hunanladdiad y llynedd ar ei uchaf ers 1999 gyda 11.4 marwolaeth fesul 100,000 o鈥檙 boblogaeth yng Nghymru a Lloegr yn 2023.

Roedd y gyfradd yn uwch ymysg dynion - 17.4 marwolaeth fesul 100,000 o鈥檙 boblogaeth - eto yr uchaf ers 1999.

Ymysg merched roedd y gyfradd yn 5.7 marwolaeth fesul 100,000 o'r boblogaeth, yr uchaf ers 1994.

Roedd y gyfradd yn uwch yng Nghymru (14 marwolaeth fesul 100,000) nag yn Lloegr (11.2 fesul 100,000).

Fel rhan o ymgyrch Dal Dy Dir, bydd rhai o aelodau Clwb Rygbi Nant Conwy yn gwisgo dillad a breichledau i roi gwybod i eraill y gallan nhw helpu gyda chymorth iechyd meddwl.

Mewn cydweithrediad 芒 sefydliad Speakeasy Club, sy鈥檔 gweithio yn y maes iechyd meddwl a chwaraeon, bydd mainc yn cael ei phaentio鈥檔 binc ac arni god QR i bobl fedru ei sganio鈥檔 ddirgel os ydyn nhw鈥檔 dymuno.

Bydd y cod yn arwain y darllenydd at wefannau fel y Samariaid a Sefydliad DPJ.

Cefn gwlad

Un aelod o鈥檙 pwyllgor ydy Alun Jones sy鈥檔 hyfforddwr sydd wedi byw gydag iselder yn y gorffennol ar 么l colli baban i feningitis 17 mlynedd yn 么l.

鈥淭an mae rhywun yn agor allan ac yn siarad a derbyn lle ma' nhw o fewn y broses o iselder, yna does yna ddim modd symud allan ohono fo,鈥 meddai Mr Jones.

鈥淵n anffodus iawn fel teulu mi ddaru ni gael colled enbyd o golli Mam jest cyn 'Dolig flwyddyn diwetha' 'ma. Ac yn anffodus hunanladdiad oedd hynny.鈥

Disgrifiad,

Alun Jones fu'n rhannu ei brofiadau ef o ddelio gyda phroblemau iechyd meddwl

鈥淔elly mae鈥檙 gr诺p yma Dal Dy Dir a bod yn rhan o鈥檙 gr诺p yma i helpu ac annog pobl eraill i agor allan a siarad yn rhywbeth dwi鈥檔 meddwl ei fod yn bwysig iawn i ni fel clwb.

鈥淢ewn clwb fel Nant Conwy, 'den ni mewn ardal amaethyddol gryf iawn yn yr ardal yma.

鈥淎c fel 'dech chi鈥檔 gwybod mae 'na broblemau enfawr o fewn i鈥檙 maes amaethyddiaeth.

鈥淵 problemau sydd ar ysgwyddau lot o鈥檙 chwaraewyr 'ma, mae annog rhywun i agor allan, mae鈥檔 bwysig bod y deialog yn cael ei agor allan."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys yr erthygl yma, mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan 大象传媒 Action Line