´óÏó´«Ã½

Y llen yn codi ar Dr. Strangelove i Mabli Gwynne

Mabli GwynneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mabli mewn digwyddiad lansio Dr. Strangelove ar y West End

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf erioed mae'r ffilm gomedi clasurol Dr. Strangelove yn cael ei pherfformio ar lwyfan yn y West End ac ymhlith y cast mae'r gantores a'r actores o Gaerdydd, Mabli Gwynne.

Mae'r actores ifanc yn cyfadde’ bod y ffilm ei hun o 1964 yn ddieithr iddi ar y dechrau, ond ei bod yn llwyr fwynhau'r profiad o gydweithio gyda chast 'gwbl amazing'.

Mae'r sioe, sy'n gweld y comedïwr Steve Coogan yn chwarae rhan pedwar cymeriad, yn cael ei llwyfannu tan Ionawr 25 yn Theatr Noel Coward yn y West End cyn symud i Ddulyn ym mis Chwefror.

"Fi rili joio. Ma' gweithio gyda Steve yn amazing. Ma' pawb yn y cast yn hollol wych i weithio gyda nhw," meddai Mabli ar raglen Bore Cothi ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.

"Dwi'n gobeithio y gall hyn barhau i'r dyfodol - ond os dyna beth yw e' am nawr fi'n hapus gyda hynny."

Ffynhonnell y llun, Craig Sugden
Disgrifiad o’r llun,

Mabli (ail o'r chwith, rhes ganol) gyda chast Dr. Strangelove, gan gynnwys Steve Coogan (canol y rhes gefn)

'Teimlo yn sbesial'

Mae Dr. Strangelove yn cael ei disgrifio gan feirniaid fel un o'r ffilmiau comedi gorau erioed gyda Peter Sellers yn chwarae rhan cadfridog gwallgof yn ystod cyfnod y rhyfel oer a'r pryderon am ryfel niwclear.

"O'n i byth wedi clywed am Dr. Strangelove yn iawn. O'n i'n cofio oedd tad-cu fi wedi dweud unwaith fod e'n caru'r ffilm, bod e'n caru Peter Sellers.

"Ond pan ges i'r clyweliad nes i wylio'r ffilm – wnes i wneud yr ymchwil achos o'n i ddim yn gwybod pa fath o rôl oedd ar gael i fenyw yn y sioe.

"Achos dim ond un fenyw sydd yn y ffilm ond pan ddaeth e' trwodd bod nhw am gastio rhywun i chwarae rhan Vera Lynn yn y sioe – ac achos bod y sioe yn agor ar fy mhen-blwydd – o'n i'n meddwl 'ww, ma' rywbeth yn teimlo yn sbesial am hyn'."

Ffynhonnell y llun, Manuel Harlan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Coogan yn chwarae pedwar cymeriad yn y sioe, gan gynnwys Doctor Strangelove

Ymchwilio i Alan Patridge

Y comedïwr Steve Coogan sy'n chwarae prif gymeriad y sioe, sef Doctor Strangelove, ynghyd â thair rôl arall. Bydd nifer yn ei gofio am ei rôl Alan Partridge, ond wrth gwrs roedd y cyfnod hwnnw'n ôl yn y 1990au...

"Fi bach yn embarrassed i ddweud pan ddaeth y clyweliad drwyddo oedd e'n dweud pwy oedd yn mynd i chwarae'r brif ran o'n i'n meddwl bod fi'n gyfarwydd gyda'r enw yna ond o'n i gorfod edrych e lan i weld pwy oedd e.

"Fi'n nabod Steve Coogan o Night at the Museum, nid Alan Partridge, ond ers hynny fi wedi gwneud yr ymchwil a dwi yn meddwl fod Alan Partridge yn brilliant – a Steve; ma' jôcs wastad yn dod mas ohono fe. Mae e jest yn foi normal a lyfli i weithio gydag e'."

Ffynhonnell y llun, Mabli Gwynne
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mabli ei debut fel Vera Lynn ar lwyfan y West End yn ystod wythnos ei phen-blwydd yn 26 oed!

Her y rôl

Mae'r cast yn cynnwys 16 o actorion gyda Mabli yn y rôl swing, sef actor sydd ar gael ar fyr-rybudd i chwarae gwahanol gymeriadau.

"Mae swing yn rili bwysig ym myd theatr. Felly er bod 16 yn y cast, fi yw'r unig un sydd yn y cast sydd ddim ar lwyfan bob nos ond fi'n gorfod bod yn y theatr bob nos jest rhag ofn bod rhywbeth yn mynd o'i le, unai jest cyn y sioe neu ynghanol y sioe.

"Doedd gen i ddim syniad yn y bedwaredd sioe bod fi am fynd 'mlaen fel Vera Lynn ond fe ges i alwad yn y p'nawn – felly mae e'n her weithiau."

Dydi perfformio ddim yn beth anghyfarwydd i Mabli, wrth gwrs. Mae hi hefyd yn canu ac newydd orffen haf prysur o recordio cerddoriaeth newydd a gigio, gan gynnwys gig unigol yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, ac fel rhan o fand Mared Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Pontypridd.

Mae 2024 yn amlwg wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus iddi, ac mae 2025 yn barod yn argoeli i fod yr un mor brysur.