大象传媒

Cadeirlan Bangor yn gosod ei stamp ar y Nadolig

Stamp Bangor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Esgob Enlli, y Gwir Barchedig David Morris, yn dal y stamp sy'n arddangos y gadeirlan

  • Cyhoeddwyd

Bydd dinas Bangor yn gosod ei stamp yn llythrennol y Nadolig yma gan y bydd darlun o'r gadeirlan i'w weld ar stampiau dosbarth cyntaf y Post Brenhinol.

Judy Hoel yw'r artist sy'n gyfrifol am y llun, ac yn ogystal 芒 Bangor mae pedair cadeirlan arall yn rhan o'r gyfres - Caeredin, Armagh, Lerpwl a Westminster.

Dywedodd Esgob Enlli y Gwir Barchedig David Morris: 鈥淢ae'n ddyluniad hardd iawn ac edrychaf ymlaen at dderbyn fy ngherdyn Nadolig cyntaf gyda stamp sy'n arddangos Cadeirlan Bangor.

鈥淢ae鈥檔 arbennig o arwyddocaol i ni wrth i ni baratoi i ddathlu 1,500 o flynyddoedd ers i Sant Deiniol sefydlu cymuned ym Mangor.

"Gobeithiwn y bydd y stamp yn annog pobl i ymweld 芒鈥檙 Gadeirlan yn ystod ein dathliadau Nadolig.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n mynd i gynyddu diddordeb yn y gadeirlan," medd Archddiacon Meirionnydd, Robert Townsend

Ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth ychwanegodd Archddiacon Meirionnydd, y Parchedig Robert Townsend bod y "cyfan yn anhygoel ac yn fraint" ar drothwy y pen-blwydd 1,500.

"Mae'n mynd i gynyddu diddordeb yn y gadeirlan a rhoi proffil arall i ni ac mae hynny i'w groesawu.

"Dwi'n gobeithio y bydd pobl yn gweld y stampiau ac yn sylweddoli bod gennym ni gadeirlan sy'n eithaf hynafol yma ym Mangor a bod e'n werth taro mewn.

"Mae'n un o'r safleoedd Cristogol hynaf ym Mhrydain. Blwyddyn nesaf mae'n flwyddyn dathlu y 1,500 - nid yn unig i'r gadeirlan ond i ddinas Bangor. Mae hyn yn ffordd wych iawn i gychwyn."

Ychwanegodd ei fod yn disgwyl cyfnod prysur ar drothwy'r Nadolig wrth i nifer gynnal gwasanaethau carolau yn y gadeirlan.

"Mae'n anodd weithiau erdrych ar 么l yr adeiladau ond mae'n fraint i'w cael nhw - mae'r adeilad ei hun yn dystiolaeth i Gristnogaeth ac i'r gwerthoedd 'dan ni'n cysylltu efo'n ffydd ni."

Mae'r Post Brenhinol yn argymell postio'n ail ddosbarth erbyn brynhawn Mercher, 18 Rhagfyr ac os am bostio dosbarth cyntaf mae'n rhaid gwneud hynny erbyn 20 Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig