大象传媒

Rhybuddio Andrew RT Davies rhag trafod diddymu'r Senedd

Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn "awyddus i weld barn pobl" ar ddiddymu'r Senedd

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cael ei rybuddio yn erbyn ceisio cael dadl am a ddylid diddymu'r Senedd gan aelod blaenllaw o'i blaid.

Dywedodd Andrew RT Davies ar X - Twitter gynt - ei fod wedi codi'r mater yn sioe amaethyddol Bro Morgannwg am ei fod yn "awyddus i weld barn pobl".

Ond dywedodd yr Arglwydd Nick Bourne - cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru a chyn-aelod o'r Cynulliad, fel yr oedd ar y pryd - fod "nifer fawr o bethau da am wleidyddiaeth ddatganoledig".

Dyw diddymu'r Senedd ddim yn bolisi'r Ceidwadwyr, ond dywedodd Mr Davies ei fod yn ceisio cael barn y bobl.

'Ddim yn gwneud llawer o synnwyr'

Dywedodd yr Arglwydd Bourne ar raglen Sunday Supplement 大象传媒 Radio Wales: "Pan wnaed y bleidlais dros 25 mlynedd yn 么l, fe benderfynon ni mai'r ffordd gywir ymlaen oedd gwneud y Cynulliad - y Senedd nawr - i weithio er budd pobl Cymru.

"Dyna'r safle o hyd yn bendant. Dydw i ddim yn gweld pam 'dyn ni'n mynd i lawr y blind alley yma.

"Dyw e ddim yn gwneud llawer o synnwyr i fi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr Arglwydd Bourne nad yw'r deall pam fod Mr Davies yn codi'r mater

Yn gynharach yr wythnos hon fe rannodd Mr Davies lun ar X o Sioe Bro Morgannwg.

Roedd yn gofyn i bobl roi p锚l mewn un o ddau focs - un yn dweud y dylid diddymu'r Senedd, ac un arall yn dweud na ddylid ei diddymu.

Dywedodd Mr Davies ei fod yn "b么l piniwn anwyddonol".

Yn ymateb i feirniadaeth ar X, dywedodd Mr Davies: "Rydyn ni jyst yn awyddus i weld barn pobl. Mae'n bwysig darganfod beth mae pobl yn ei feddwl".

Fe wnaeth yr Arglwydd Bourne hefyd gwestiynu pam fod Mr Davies wedi codi'r mater o argaeledd cig sydd ddim yn halal yn ysgolion Cymru.

Mae Mr Davies wedi cael ei gyhuddo gan Gyngor Mwslemaidd Cymru o bryfocio mewn modd Islamoffobaidd gyda'i sylwadau mewn erthygl ddiweddar ar gyfer gwefan GB News.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne: "Mae angen i ni wneud yn glir ein bod ni'n blaid ar gyfer y wlad gyfan.

"Rydyn ni'n blaid ar y dde gymedrol, a dylid adlewyrchu hynny yn y ffordd rydyn ni'n mynd ati gyda gwleidyddiaeth yng Nghymru."

'Dydw i ddim yn ymddiheuro'

Yn ymateb i'r feirniadaeth dywedodd Mr Davies ddydd Sul bod y "Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll yn erbyn pob math o hiliaeth, gan gynnwys yn erbyn Mwslemiaid".

"Mae pobl o ar draws Cymru wedi codi'r mater o argaeledd cig sydd ddim yn halal mewn ysgolion gyda mi.

"Mae'r cwestiynau yn rhai dilys a dydw i ddim yn ymddiheuro am eu lleisio."