大象传媒

Mwy o swyddi na'r disgwyl yn y fantol yn Y Drenewydd

Cwmni Nidec yn y Drenewydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Nidec Control Techniques wedi darparu gwaith i gannoedd o bobl leol ers y 1970au

  • Cyhoeddwyd

Fe allai 65 o swyddi gael eu colli mewn ffatri yn y canolbarth, yn ychwanegol i'r 100 o ddiswyddiadau a gafodd eu cyhoeddi yn gynharach eleni.

Mae cwmni o'r Drenewydd - Nidec Drives - yn cynnig ailstrwythuro ei lefelau staffio yn y dref, sy'n golygu y gallai swyddi gael eu colli.

Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n cyflogi 636 o bobl ar y safle.

Yn 么l y Nidec mae鈥檙 toriadau oherwydd "ansicrwydd yn y farchnad fyd-eang".

Maen nhw'n dweud y bydd gan rai staff y cyfle i adleoli i rolau eraill o fewn y cwmni.

Cafodd y cwmni - KTK oedd ei enw gwreiddiol - ei sefydlu yn Y Drenewydd ym 1973.

Ym 1979 symudodd y cwmni i safle mwy yn y dref ar 么l cael cynnig ffatri di-rent gan Gorfforaeth Datblygu Canolbarth Cymru.

Erbyn 2017 ymunodd Control Techniques 芒 chorfforaeth Nidec o Japan sy'n gweithredu mewn mwy na 40 o wledydd.

Mae pencadlys y cwmni yn dal i fod yn Y Drenewydd lle mae bellach yn cyflogi 636 o bobl ar ddau safle, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr sector preifat mwyaf y canolbarth.

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y cwmni bod yn rhaid iddo wneud newidiadau i'w weithlu yn Y Drenewydd, a allai arwain at golli hyd at 98 o swyddi.

'Amodau ansicr y farchnad fyd-eang'

Mewn datganiad dywedodd y cwmni bod y newid arfaethedig oherwydd "amodau ansicr y farchnad fyd-eang a'r amgylchedd busnes heriol sy'n deillio o hynny".

Ychwanegwyd eu bod nhw wedi ymrwymo i fod yn "gyflogwr allweddol yn y rhanbarth" a bydd unrhyw benderfyniad ailstrwythuro "yn cael ei wneud gyda鈥檙 flaenoriaeth yma mewn golwg".

Pynciau cysylltiedig