大象传媒

Rhieni a disgyblion wedi eu 'methu' gan safonau addysg

Ystafell ddosbarth gyda disgyblion anhysbys. Y llun dros ysgwydd un disgybl mewn crys gwyn yn eistedd wrth ddesg ac yn edrych ar athro sydd yn pwyntio at fwrdd gwyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna bryder am safonau addysg Cymru yn sgil canlyniadau gwan ym mhrofion rhyngwladol Pisa

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o fethu rhieni, disgyblion ac athrawon Cymru ac o fod yn gyfrifol am y safonau addysgol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.

Roedd y gwrthbleidiau'n ymateb i ddatganiad yn y Senedd ar fesurau i hybu cyrhaeddiad disgyblion.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle y byddai mwy o adnoddau'n cael eu clustnodi ar gyfer dysgu llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth.

Daw'r datganiad yn sgil canlyniadau gwael i Gymru mewn profion rhyngwladol ac adroddiad beirniadol yn gynharach eleni am y drefn addysg.

Yn 么l Ms Neagle roedd yna "lawer i'w ddathlu" yn y byd addysg ond roedd "presenoldeb dysgwyr, agweddau at ddysgu a chyrhaeddiad yn wannach na chyn y pandemig".

Dywedodd bod presenoldeb wedi gwella ychydig, ond nad oedd "yn agos at fod yn ddigon da" a bod mesurau'n cael eu cyflwyno i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael.

Ychwanegodd y byddai gr诺p o arbenigwyr annibynnol yn cael eu penodi i'w chynghori fel rhan o'r ymdrechion i godi safonau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yna fwy o adnoddau ar gyfer dysgu llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth, medd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell, bod gorfod troi at arbenigwyr allanol yn "gyfaddefiad o fethiant".

"Ar 么l 25 mlynedd o Lafur yng Nghymru rydych chi wedi methu mynd i'r afael 芒 hyd yn oed y mater sylfaenol o wella safonau mewn ysgolion", meddai.

Dywedodd bod y llywodraeth wedi methu teuluoedd a staff ysgolion.

Roedd datganiad yr Ysgrifennydd Addysg yn siom meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard.

Dywedodd bod y gweinidog wedi cynnig "mwy o'r un peth - yr un atebion ideolegol wnaeth ein cael ni mewn i'r llanast yma yn y lle cyntaf".

Beth yw'r broblem gyda safonau addysg?

Roedd canlyniadau disgyblion Cymru ym mhrofion rhyngwladol mathemateg, darllen a gwyddoniaeth Pisa yn is nag erioed o'r blaen ac wedi disgyn yn bellach tu 么l i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Fe wnaeth adroddiad yn gynharach eleni dynnu sylw at "ganlyniadau addysgol gwael ar draws y sbectrwm yng Nghymru, gyda pherfformiad arbennig o wael ymhlith disgyblion llai cefnog".

Galwodd yr adroddiad am newidiadau i'r Cwricwlwm i Gymru ac oedi cyn cyflwyno cyrsiau TGAU newydd flwyddyn nesaf.

Dangosodd data o asesiadau darllen a rhifedd fod safonau plant saith i 14 oed wedi gostwng ers y pandemig.

Roedd y cwymp mwyaf yn y profion darllen Cymraeg - gyda'r gostyngiad i berfformiad yn cyfateb i 11 mis tu 么l i ganlyniadau 2020-21.

Yn ogystal, roedd yna fylchau sylweddol rhwng perfformiad plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyd-ddisgyblion.

Roedd disgyblion tlotach 21 mis ar ei h么l hi ar gyfartaledd mewn darllen Saesneg a 31 mis mewn darllen Cymraeg.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg hefyd wedi dod dan y lach ar 么l sylw yn y cyfryngau i'r ffordd mae plant ifanc yn cael eu dysgu i ddarllen yn Saesneg.

Dywedodd Lynne Neagle wrth Aelodau o'r Senedd ddydd Mawrth fod adroddiad blynyddol arolygwyr Estyn yn awgrymu bod "ysgolion yn cael y pethau sylfaenol yn iawn ond bod angen mwy o ffocws ar ddatblygu sgiliau lefel uwch".