Cyngor yn gofyn i ysgolion beidio 芒 dangos cefnogaeth i ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Mae ysgolion yn Sir Benfro wedi cael cyfarwyddyd i beidio 芒 dangos cefnogaeth i ffermwyr sy'n protestio yn erbyn newidiadau i drethi etifeddiant yn sgil ofnau am "ragfarn wleidyddol".
Mae miloedd o ffermwyr yn gorymdeithio yn Llundain ddydd Mawrth i ddangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau a gafodd eu cyhoeddi yn y gyllideb fis diwethaf.
Fe fyddai'r cynlluniau yn cael gwared ar eithriad Treth Etifeddiant ar dir amaethyddol.
Roedd rhai ysgolion yn y sir wedi bod yn hyrwyddo 'Diwrnod Gwisgwch Eich Welis', gan ddweud fod croeso i ddisgyblion wisgo esgidiau glaw i'r ysgol fel symbol o gefnogaeth.
Ond mae Cyngor Sir Penfro wedi dweud wrth ysgolion bod angen iddynt fod yn niwtral o ran eu gwleidyddiaeth.
Gofyniad cyfreithiol
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: 鈥淥 ystyried y potensial ar gyfer gwleidyddiaeth bleidiol a thuedd wleidyddol, mae ysgolion wedi cael cais i ddileu unrhyw negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol yn ymwneud 芒鈥檙 ymgyrch.鈥
Ychwanegodd y cyngor fod hwn yn ofyniad cyfreithiol sydd wedi'i nodi yn Neddf Addysg 1996.
Yn ei chyllideb fis diwethaf, fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai ffermydd sy' werth dros 拢1m yn wynebu treth etifeddiaeth yn y dyfodol ar raddfa o 20%, gyda'r opsiwn o'i dalu'n raddol dros gyfnod o 10 mlynedd.
Ers hynny, mae'r llywodraeth wedi honni droeon bod lwfansau eraill yn golygu bod y trothwy mewn gwirionedd yn nes at 拢3m i nifer, gan olygu y byddai'r newid ond yn targedu'r tirfeddianwyr mwyaf cefnog, ac yn diogelu ffermydd bach.
Mae asedau na sy'n rhai amaethyddol yn cael eu trethu 40%, gyda鈥檙 trothwy ar gyfer teulu dau riant yn 拢1m.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd