大象传媒

Cyngor Gwynedd i fuddsoddi 拢5m ym marina Pwllheli

Harbwr pwllheli Ffynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi eu bod am fuddsoddi mwy na 拢5m ym marina Pwllheli dros y ddegawd nesaf.

Bwriad y buddsoddiad yw galluogi'r marina i barhau i ddod 芒 budd i'r economi leol.

Mae'r safle bellach yn denu mwy na 拢3m i'r economi leol yn flynyddol ac yn darparu nifer o swyddi yn ardal Pwllheli.

Byddai peidio buddsoddi wedi bod yn "ergyd drom i economi ardal Pwllheli", yn 么l un cynghorydd.

Cyngor yn cael 'gwerth am arian'

Fe wnaeth aelodau o Gyngor Gwynedd gytuno i fabwysiadu Cynllun Asedau sy'n caniat谩u gwariant cyfalaf ac yn golygu fod y cyngor yn gallu rheoli asedau hanfodol gan gynnwys Hafan Pwllheli.

Daw'r grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant ar asedau.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned fod Hafan Pwllheli "yn dod 芒 mwy na 拢3m o fudd economaidd i ardal Pwllheli yn flynyddol ac yn cefnogi mwy na 50 o swyddi llawn amser".

Roedd o'r farn fod "gwario i gadw'r ddarpariaeth i fyny i'r safon ddisgwyliedig yn werth am arian, ac yn arbennig o bwysig i'r economi leol yn ardal Dwyfor".

Dywedodd fod y "dyfodol yn argoeli'n dda ar gyfer yr Hafan" wrth i nifer y cwsmeriaid blynyddol gynyddu ers 2019.

Bwriad y Cyngor yw clustnodi rhan o'r 拢5.4m ar garthu'r harbwr gyda chyfran arall o'r arian yn cael ei glustnodi ar gyfer adnewyddu'r pont诺ns sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes.

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, heb y buddsoddiad yma ni fyddai modd "cadw i fyny efo'r farchnad a byddai cwsmeriaid yn gadael... ergyd drom i economi ardal Pwllheli sy'n dibynnu ar y diwydiant morwrol".

Dywedodd fod y cyngor yn "gwneud elw o'r marina" a bod "creu incwm drwy ffioedd yn rhan allweddol o'n strategaeth ariannol".

Ychwanegodd fod y cyngor yn cydnabod fod sawl harbwr ar hyd arfordir Gwynedd yn "bwysig i gymunedau lleol ac economi鈥檙 ardal".

Pynciau cysylltiedig