大象传媒

Iawndal postfeistri ddim yn newid 'uffern' dioddefwyr

Disgrifiad,

Noel Thomas: Iawndal o 拢600,000 'ddim yn ddigon'

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd iawndal o 拢600,000 i bostfeistri a gyhuddwyd ar gam o ddwyn arian yn gwneud yn iawn am yr "uffern mae pobl wedi ei ddioddef", meddai cyn-bostfeistr o F么n.

Dros 14 mlynedd, rhwng 2000 a 2014, cafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn am ddwyn arian yn rhan o sgandal Horizon - er mai meddalwedd y Swyddfa Bost oedd ar fai mewn gwirionedd.

Ddydd Llun, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y cynnig o iawndal i gyn-weithwyr post a gafwyd yn euog o ddwyn a chadw cofnodion ffug, ond sydd a'u heuogfarnau wedi eu diddymu bellach.

Hyd yma, mae 86 o euogfarnau wedi eu diddymu.

Cafodd nifer eu carcharu, a bu farw eraill cyn i'w heuogfarnau gael eu diddymu yn ddiweddarach.

Dywedodd Noel Thomas o Gaerwen, Ynys M么n, bod yr "arian ddim yn talu am yr hyn yr ydych wedi mynd drwyddo".

Mae'r sgandal wedi ei alw'n un o'r achosion gwaethaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes troseddol Prydain.

Cafodd Mr Thomas ei garcharu am naw mis yn 2006 am gyfrifo ffug ar 么l i 拢48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.

Yn y llys, fe ollyngodd Swyddfa'r Post y cyhuddiad o ddwyn ac ar gyngor cyfreithiol fe blediodd Mr Thomas yn euog i gadw cyfrifon ffug gan obeithio osgoi carchar.

Ond cafodd ei ddedfrydu i naw mis yn y carchar a'i wneud yn fethdalwr.

Yn 2021, cafodd yr euogfarn yn ei erbyn ei diddymu'n swyddogol.

Disgrifiad,

Yn gynharach eleni, bu Noel Thomas yn esbonio effaith y sgandal ar ei fywyd

Yn siarad wedi'r cyhoeddiad ddydd Llun, dywedodd Mr Thomas na fyddai'r arian yn digolledu'r rhai a gafodd eu herlyn.

"Mewn un gair, na", meddai wrth 大象传媒 Cymru.

"Ond wedi dweud聽 hynny dwi wedi bod yn lwcus o ran fy mod wedi cael iechyd da ac wedi gallu cario ymlaen a chael teulu da y tu 么l i mi a chefnogaeth dda.

"Ond dydy'r arian ddim yn talu am yr hyn yr ydych wedi mynd drwyddo, cyn belled a dwi yn y cwestiwn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Noel Thomas ei garcharu am naw mis

Dywedodd bod y broses wedi bod yn mynd rhagddo ers sawl blwyddyn bellach, wrth i'r Llys Ap锚l wrthdroi euogfarnau.

"Maen nhw'n trio bob dim, yn lle delio 芒 phobl yn unigol fel y dylen nhw - gan fod pob achos yn wahanol -聽 mae fy achos i yn hollol wahanol i rai pobl eraill.

"Mae rhai pobl wedi colli eiddo, ella y gallai'r 拢600,000 helpu rhai ond fydd o ddim yn gwneud iawn am yr uffern mae pobl wedi ei ddioddef, mae rhai wedi colli eu bywydau hefyd."

'Un frwydr fawr'

Ychwanegodd: "Ar 么l gweithio 42 mlynedd i Swyddfa'r Post collais bopeth yn 2005 pan gerddodd y Swyddog Post i mewn a dweud fy mod wedi dwyn yr arian.

"Ar 么l hynny mae wedi bod yn un frwydr fawr ac roedd pawb rydw i wedi siarad 芒 nhw, yn defnyddio'r un polisi, yn eich galw yn lleidr o'r diwrnod cyntaf ac yn rhoi dim cyfle i chi.

"Maen nhw wedi cymryd miliynau o bunnoedd mewn eiddo gan bobl.

"Mae gen i hyder yn yr ymchwiliad ac fe roddais fy natganiad, mae'n dechrau cyrraedd y nitty gritty r诺an, ond dydy'r Swyddfa'r Post dal heb ddatgelu'r papurau o hyd felly mae wedi bod yn mynd ymlaen ac ymlaen.

"Dylai fod wedi gorffen ond mae'n ymddangos bydd yn mynd ymlaen i flwyddyn nesa'."

Mae'r ymchwiliad i sgandal Horizon yn parhau ac mae disgwyl iddo ddod i ben y flwyddyn nesaf.

Does neb o Swyddfa'r Post na Fujitsu, oedd yn berchen ar raglen gyfrifiadurol Horizon, wedi eu dwyn i gyfrif am y methiannau.

Ond yn y gorffennol, dywedodd Swyddfa'r Post eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant i'r postfeistri sydd wedi eu heffeithio gan ein methiannau hanesyddol".

Ychwanegodd Mr Thomas: "Mae gynnon nhw lot o le i ymddiheuro i bobl, mae 'na bedair llywodraeth 'di bod yn gyfrifol am hyn, mae'r peth yn mynd yn 么l i 1996...

"A wedyn mae hwn just wedi cario 'mlaen a cario 'mlaen. Pa bryd ma' nhw am gyfadda' yn lle taflu pres at dwrneiod cyfoethog yn Llundain i drio stopio bob dim?"

Mae'r llywodraeth wedi awgrymu mai dyma fydd y cynnig olaf i'r rhai a gafodd eu heffeithio, ond "dal i frwydro" fydd Mr Thomas.

"Mae'n rhaid i chi frwydro byth, a mae'n rhaid i chi frwydro efo'ch gilydd."