Llifogydd a gwyntoedd 75mya yn taro Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae tywydd garw a llifogydd wedi effeithio rhannau o Gymru ddydd Mercher.
Roedd rhybudd y Swyddfa Dywydd am law trwm mewn grym tan 18:00 nos Fercher, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio y gallai sawl afon orlifo.
Roedd adroddiadau fod mwy na 500 o gartrefi wedi colli cysylltiad trydan fore Mercher.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi delio gyda 12 achos o lifogydd drwy gydol y dydd.
Dywedodd David Waghorn o Glwb Rygbi Vardre yng Nghlydach bod d诺r wedi llifo i gampfa ac ystafelloedd newid y clwb.
"Mae'r caeau chwarae wedi eu gorchuddio'n llwyr gyda dyfnder sylweddol o dd诺r o Afon Tawe, a bydd rhaid aros i'r d诺r gilio er mwyn asesu'r difrod a phenderfynu a fydd gemau'r penwythnos yn cael eu heffeithio."
Cafodd hyrddiadau o 75 milltir yr awr eu cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri yn oriau m芒n fore Mercher.
Roedd hyrddiadau o tua 60 milltir yr awr ym Mhen-bre ac yn Aberdaron, tra bod gwyntoedd cryfion hefyd wedi eu cofnodi yn ardal y Mwmbwls.
Roedd hyd at 50-100mm o law yn debygol o ddisgyn ledled Cymru, gyda'r posibilrwydd o 150-200mm mewn rhai llefydd, medd y Swyddfa Dywydd.
Roedd wedi cyhoeddi sawl rhybudd am lifogydd yn ystod y dydd, a degau o rybuddion i fod yn barod.
Cafodd nifer o ffyrdd hefyd eu heffeithio gan y tywydd garw.
Roedd oedi ar yr A465 yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, oherwydd llifogydd.
Rhwng Bethesda a Chapel Curig, roedd yr A5 wedi ei rhwystro'n rhannol.
Roedd llifogydd wedi effeithio'r traffig ar yr A4212 rhwng y Bala a Fron-goch, tra bod y B5106 yn Llanrwst ynghau am gyfnod rhwng Castell Gwydir a'r A470.
Roedd yr A4067 tua鈥檙 de, rhwng Castle Bingo a chylchdro Treforys, wedi ei chau yn sgil llifogydd.
Mae coeden wedi syrthio ar Ffordd Holt ger Wrecsam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2023