Argyfwng costau byw ar feddyliau pleidleiswyr
- Cyhoeddwyd
Mae arolygon barn yn awgrymu mai costau byw yw'r prif bwnc sy'n poeni pobl yn ystod yr etholiad cyffredinol.
Yr etholaeth newydd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe yw un o etholaethau mwyaf Cymru o ran maint daearyddol.
Gyda phoblogaeth o 92,100, mae bron i 73,000 yn gymwys i bleidleisio.
I gael awgrym o sut mae siopau un o bentrefi'r etholaeth yn gweld pethe, fe dreuliais i fore yn Ystradgynlais, a gweld bod 'na wahaniaeth barn.
Mae Mark Griffiths yn gigydd ers 40 mlynedd, ac wedi symud i'r pentre' bum mlynedd yn ôl.
"Mae'n mynd yn lled dda," meddai. "Mae'n ddigon bishi - mae siopau newydd yn y pentre’ yn dod a custom mewn o drefi eraill."
Ond ychydig ddrysau i ffwrdd yn Heol yr Orsaf mae siop Cynthia Davies, Cofion Cynnes, sy'n gwerthu anrhegion a chardiau.
"Ar y funud mae fe'n dawel.
"Fi'n credu bod llai o arian ar hyd y lle, 'so nagyn nhw'n dod mas mor aml, a s'dim rhaid prynu dim byd o fan hyn.
"Nag y'n nhw'n essentials mewn bywyd so fi'n credu bod pobl yn dewis yn ofalus fel maen nhw'n hala eu harian."
'Sneb yn meddwl bydd dim byd yn newid'
Mae Mark a Cynthia yn dweud bod penderfyniad Cyngor Powys i ddechrau codi tâl am barcio wedi cael effaith ar eu cwsmeriaid.
"Mae'r taliad yn £2.50 a fi'n gwybod mae pawb yn dweud mae hwnna'n ormod i barcio yn Ystradgynlais," meddai Cynthia.
Er bod y cynnydd mewn prisiau dipyn llai nawr ac oedd nôl yn 2022, mae'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dweud bod pris bwyd dipyn uwch nag oedd dair blynedd yn ôl.
Mae hynny'n rhywbeth mae Mark Griffiths wedi sylwi arno.
"Mae'r tywydd lot i neud ag e," meddai "y glaw y'n ni wedi cael... mae tatws wedi mynd lan dwbl."
Mae pris trydan hefyd yn broblem, meddai
"Yr un peth licsen i weld yn dod lawr yw'r electricity, achos mae fe'n dal yn uchel, ond mae ishe dod a fe lawr er mwyn dod â phrisiau cig lawr, a phopeth."
Mae'r ddau yn dweud bod 'na dipyn o drafod ar yr etholiad, er eu bod yn amau a fydd yn arwain at unrhyw newid
"Mae lot yn siarad amdano fe," meddai Cynthia, "ond fi ddim yn credu bod dim ffydd gyda nhw yn beth sy'n mynd i ddigwydd - s'neb yn meddwl bydd dim byd mynd i newid ta pwy sy'n ennill."
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y bydden nhw'n cadw'r cap ar filiau ynni i gartrefi, a bod yr economi yn tyfu yn gynt na'r un wlad arall o fewn yr G7.
Dywedon nhw hefyd bod y llywodraeth yn San Steffan yn "cefnogi pobl sy'n gweithio'n galed" gyda'r toriadau i Yswiriant Gwladol, sydd wedi rhoi "£700 yn ôl i weithwyr ar gyfartaledd yng Nghymru, ac wedi codi'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £11.44 yr awr.
Dywedodd Llafur y bydden nhw'n cynnig sefydlogrwydd economaidd i "dyfu'r economi a chadw trethi, chwyddiant a morgeisi mor isel â phosib".
Maen nhw hefyd yn dweud y bydden nhw'n cynnig "bargen newydd" i bobl sy'n gweithio gyda "chyflog byw go iawn", a sefydlu cwmni ynni yn nwylo cyhoeddus i dorri biliau.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eu bod nhw eisiau "sicrhau bod trethi yn deg trwy godi'r baich sydd ar y rheini sydd ar gyflog isel" a gwyrdroi "toriadau'r Ceidwadwyr ar y system les", a chyflwyno treth "go iawn" ar elw cwmnïau olew a nwy.
Yn ôl Plaid Cymru, mae ganddyn nhw addewid "i ddod a diwedd i'r cap ar fudd-daliadau ar deuluoedd sydd a mwy na dau blentyn sy'n cadw miloedd o deuluoedd mewn tlodi".
Mae yna addewid hefyd i gynyddu'r budd-dal plant £20 yr wythnos, ac i dyfu'r economi yng Nghymru trwy "bwyso ar y DU i ailymuno a marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd a'r undeb dollau, i ddechrau gwyrdroi'r niwed economaidd achoswyd gan Brexit y Torïaid".
Rhestr lawn o’r ymgeiswyr yn etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe:
Democratiaid Rhyddfrydol - David Chadwick
Llafur - Matthew Dorrance
Plaid Cymru - Emily Durrant-Munro
Reform UK - Adam Hill
Ceidwadwyr - Fay Jones
Plaid Werdd - Amerjit Kaur-Dhaliwal