大象传媒

Cip ar yr ysgol gomedi yn Llangefni

Kiri Pritchard-McLean ar lwyfan Leicester Comedy FestivalFfynhonnell y llun, getty images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kiri Pritchard-McLean

  • Cyhoeddwyd

Mae Llangefni, o bosib, yn lleoliad go annisgwyl i agor ysgol gomedi. Ond yno y penderfynodd Kiri Pritchard-McLean a Katie Gill-Williams sefydlu Gwneud Make Do.

Mae Gwneud Make Do yn cynnig sesiynau creadigol i ddysgu am grefft comedi: o fyrfyfyrio, i ysgrifennu sgriptiau, i wneud stand-yp mae tymor o sesiynau yn cynnig trosolwg eang o gomedi yn ei holl ffurfiau.

Pwy ydyn nhw?

Kiri Pritchard-McLean

Yn gynyddol aml mae Kiri i'w gweld ar rai o brif raglenni comedi y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Have I Got News For You, 8 out of 10 Cats Does Countdown, QI a Live at the Apollo. Mae hi hefyd wedi teithio gwledydd Prydain benbaladr gyda'i sioeau stand-yp Home Truths, Victim Complex, a'i sioe gyfredol Peacock. Ar ben hynny mae hi'n bodledwraig brysur, a than yn ddiweddar bu'n cyflwyno ar 大象传媒 Radio Wales ar brynhawniau Sul.

Un o F么n yw hi, ac mae hi'n dal i fyw yn yr ardal felly 'roedd agor ysgol gomedi yn agos at adra yn gwneud synnwyr.

Ffynhonnell y llun, Katie Gill-Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Katie Gill-Williams

Katie Gill-Williams

Un o ochrau Lerpwl yw Katie Gill-Williams yn wreiddiol ond mae bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru, ac wedi dysgu Cymraeg. Dim ond yn ddiweddar y dechreuodd ymwneud o ddifrif 芒 chomedi stand-yp.

Mae hi wedi perfformio ledled y DU yn rhai o wyliau mwyaf y byd comedi gan gynnwys G诺yl Gomedi Machynlleth a Chaerl欧r ac yn y Women in Comedy Festival ym Manceinion.

Yn ogystal 芒 hynny, mae wedi ysgrifennu i raglen banel What Just Happened 大象传媒 Cymru, a wedi cefnogi y gomediwraig Rachel Fairburn ar y daith Showgirl yn 2023. Roedd hi yn ffeinal Frog and Bucket World Series 2022, ac ar rest fer gwobr 大象传媒 Newy Comedy Awards 2023.

Sefydlu Gwneud Make Do

Dywedodd Katie mai sylwi ar ddiffyg cyfleoedd yn lleol oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer dechrau'r sgwrs am yr ysgol.

"Pan o鈥檔 i鈥檔 ifanc nes i wneud drama, jest tu allan i Lerpwl a 'nes i feddwl pa mor bwysig yw hi i bobl ifanc gael rhywbeth i fynd i weld os ydyn nhw鈥檔 ei hoffi 鈥 comedi neu ddrama neu rywbeth fel hwn. So, nes i siarad [gyda Kiri] am ddechrau rhywbeth."

Ychwanegodd Kiri: "Dw i鈥檔 cytuno. Pan 'nes i symud [yn 么l] yma, achos dw i鈥檔 dod o Sir F么n, o鈥檔 i wedi penderfynu bod hi鈥檔 rili bwysig i drio cefnogi pobl dalentog yn yr ardal a trio defnyddio fy contacts, a jyst trio gwneud rhywbeth i helpu pobl ifanc i wneud comedi yng Nghymru.

"Mae pobl wastad yn symud i Lloegr, Llundain, Manceinion i wneud pethau in the Arts. Mae鈥檔 bwysig i mi bod pobl ifanc sy鈥檔 byw yn Sir F么n, sydd isio gwneud comedi neu drama, yn hapus i aros yma."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhannu tips a phrofiadau

Ar gyfer pwy mae'r ysgol?

Mae'r sesiynau yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos; i oedolion ar nos Fawrth ac i blant a phobl ifanc ar foreau Sadwrn. Pwysleisiodd y ddwy bod yr ysgol ar gyfer pawb ac mai'r nod yw bod yn lle cynhwysol a chroesawgar i bawb gael mynegi eu hunain.

Eglurodd Katie: "Mae o i bobl ifanc a pobl fel fi hefyd. O鈥檔 i鈥檔 gwneud swydd wahanol cyn i mi ddechrau gwneud comedi eto. Mae gen i blant felly mae鈥檔 anodd ffeindio outlet i wneud rhywbeth creadigol."

Ategodd Kiri: "Dw i鈥檔 meddwl mae鈥檔 rili bwysig i siarad am famau. Achos dw i鈥檔 gweld llawer o famau sy鈥檔 colli dipyn bach o nhw [eu hunain ar 么l cael plant]. Dwi鈥檔 meddwl bod o鈥檔 bwysig i jyst cael rhywbeth arall, dim jest bod yn 鈥Osian鈥檚 mam鈥 neu 鈥Geraint鈥檚 mam鈥. So jyst helpu pobl 鈥 sounds cheesy 鈥 to find themselves."

Mae hyn yn rhywbeth mae Katie, fel mam i blant ifanc, yn ei wybod ei hun: "Dw i鈥檔 deall. Mae鈥檔 bwysig [i oedolion] gael outlet hefyd. Mae鈥檔 neis i wneud rhywbeth vulnerable achos pan ti鈥檔 h欧n ti鈥檔 stopio dysgu. Dw i鈥檓 yn gwybod pam."

Ychwanegodd Kiri: "Dw i鈥檔 meddwl bod 'na lawer o bethau i gefnogi pobl ifanc a henoed, ond mae 'na jyst gap yn y canol. Dw i鈥檔 meddwl bod llawer o bobl ddim yn gwybod be' [maen] nhw isio gwneud. Dal, yn eu 20s, yn eu 30s, yn dal i drio ffeindio 鈥the thing鈥.&辩耻辞迟;

Disgrifiad,

Gwyliwch: Katie Gill-Williams a Kiri Pritchard-McLean yn s么n am y syniad tu 么l i Gwneud Make Do, eu hysgol gomedi newydd yn Ynys M么n.

Mae'r ymateb i'r ysgol wedi bod yn "anhygoel," medden nhw, ac mae gweld y cynnydd a'r datblygiad yn yr unigolion sydd wedi bod yn dod yn wythnosol ers mis Medi yn "gyffrous." Ac mae'r ddwy yn "falch iawn" o'r fenter newydd yma.

Gyda Kiri wedi sefydlu ei hun yn gadarn ar y s卯n gomedi Brydeinig, mae'n cymryd mantais ar y "contacts" mae hi wedi'u gwneud ar y ffordd. Mae gwahanol gomediwyr yn dod i'r sesiynau i ganolbwyntio ar grefftau gwahanol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o sesiynau yr oedolion

"Daeth Kate McGabe i wneud improv efo鈥檙 dosbarth. Mae hi o Efrog Newydd yn wreiddiol ond yn Manceinion rwan. One of the best improvisers in the industry," meddai Katie.

Dywedodd Kiri ei fod yn bwysig iddi hi i beidio 芒 chymryd yr agwedd ei bod hi'n mynd i allu dysgu popeth, jest oherwydd ei bod hi'n brofiadol:

"Dw i ddim yn gwybod digon am musical comedy felly dw i jyst yn dweud wrth Carys Eleri, 'ti isho dod yma a gwneud dosbarth a gwersi?' Ac mae鈥檔 rili bwysig i fi ddim jyst assume 'Oh I can teach that!'."

Eglurodd mai dim ond dechrau gwneud comedi yn Gymraeg y mae'r ddwy ohonynt, a'i bod hi'n bwysig iawn iddyn nhw fel dysgwyr gael defnyddio eu Cymraeg. Felly fe alwon nhw ar Tudur Owen i gynnal y dosbarth Defnyddio Cymraeg Mewn Comedi gan fod cynifer o siaradwyr Cymraeg yn dod i'r sesiynau.

Pwysigrwydd yr ysgol i Ynys M么n

Yn un o'r fam ynys ei hun mae Kiri yn teimlo'n gryf am gael cyfle fel Gwneud Make Do ar gael yn lleol.

"Mae dipyn bach yn drist rwan i weld M么n a phobl ifanc M么n, there鈥檚 fewer canolfan a clubs i fynd, especially the Arts. Dw i鈥檔 meddwl bod Ynys M么n angen dipyn bach o love, achos mae 鈥檔a lawer o bobl talentog yma, a dw i鈥檔 meddwl mae鈥檔 rili bwysig i bobl gael y cyfle."

Gwyliwch Kiri ar raglen Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd ar S4C.

Pynciau cysylltiedig