Plentyn ifanc wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar 么l i blentyn ifanc gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad gyda beic modur yn Sir y Fflint.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Central Drive yn Shotton yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 17:30 ddydd Mercher.
Fe fethodd gyrrwr y beic modur 芒 stopio ar 么l y gwrthdrawiad.
Cafodd y plentyn ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Alder Hey ar 么l cael anafiadau allai newid bywyd ac mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Yn 么l Heddlu'r Gogledd, mae dyn sy'n cael ei amau o yrru'r beic modur wedi ei arestio ac mae tri o bobl eraill wedi cael eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
'Mwy o blismyn' yn yr ardal
Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan fod "mwy o blismyn" yn yr ardal wrth i swyddogion geisio dod o hyd i'r gyrrwr a fethodd 芒 stopio yn dilyn y gwrthdrawiad."
Ychwanegodd: 鈥淢ae tri o bobol hefyd wedi鈥檜 harestio mewn cysylltiad 芒鈥檙 digwyddiad ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
鈥淩wy鈥檔 annog unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un a oedd yn teithio yn ardal Central Drive ar y pryd ac a allai fod 芒 lluniau camera, lluniau ff么n symudol neu luniau teledu cylch cyfyng, i gysylltu 芒 ni cyn gynted 芒 phosibl."
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud bod y dyn sy'n cael ei amau o yrru'r beic modur wedi cael ei arestio mewn ardal arall a bydd yn cael ei holi gan swyddogion yn ddiweddarach.