Marwolaeth Abertawe: Dau ddyn yn gwadu llofruddiaeth

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Andrew Main bedair wythnos ar ôl yr ymosodiad yn Abertawe ym mis Gorffennaf

Mae dau ddyn wedi gwadu llofruddio dyn 33 oed yn Abertawe.

Yn Llys y Goron Abertawe, plediodd Joseph Dix, 26 oed, o Frome a Macauley Ruddock, 27 oed o Gaerfaddon, yn ddi-euog i lofruddiaeth Andrew Main o Falkirk.

Fe wnaethon nhw hefyd bledio'n ddi-euog i gyhuddiad o ddynladdiad.

Bu farw Mr Main yn yr ysbyty bedair wythnos ar ôl ymosodiad ger mynedfa'r Travelodge ar Ffordd y Dywysoges am tua 02:00 ar 17 Gorffennaf.

Cafodd Joseph Dix a Macauley Ruddock eu cyhuddo'n wreiddiol o anafu gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol, ond fe gawson nhw eu cyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Mr Main.

Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw o flaen llys ar 6 Ionawr 2025

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Andrew "yn llawer rhy fuan", meddai ei chwaer

Dywedodd Nikki Main mewn teyrnged i'w brawd: "Yn anffodus, cafodd Andrew – fy mrawd bach – ei gymryd oddi wrthym yn llawer rhy fuan."

“Rydym wedi ein syfrdanu gan ei farwolaeth sydyn a gofynnwn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.

“Bydd yn byw yn ein calonnau a’n hatgofion am byth."