大象传媒

'Mwy na chlwb rygbi': Clwb Bethesda yn dathlu'r 50

Hen lun o chwaraewyr y clwb o'r cyfnod tua 1976/77Ffynhonnell y llun, Iain Buchanan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Clwb Rygbi Bethesda ei sefydlu yn 1974

  • Cyhoeddwyd

Bydd dathliadau yn nhref Bethesda ddydd Sadwrn, wrth i'r clwb rygbi nodi hanner canrif ers ei ffurfio.

Mae'n ddathliad pwysig iawn i'r gymuned gyfan gan ei fod yn "llawer mwy na chlwb rygbi, ond yn glwb cymunedol", yn 么l y cyfarwyddwr Iain Buchanan.

I nodi'r achlysur, mae g锚m arbennig wedi ei threfnu rhwng Bethesda a Th卯m Academi Rygbi Gogledd Cymru XV, gyda'r gic gyntaf am 14:30 ddydd Sadwrn.

Bydd y diwrnod yn gasgliad o ddigwyddiadau gwahanol, gyda gwahoddiad i holl gyn-chwaraewyr y clwb ddod draw er mwyn hel atgofion.

Fe fydd y dathliadau'n parhau yn hwyr i'r nos hefyd, gyda band Hogia'r Bonc yn chwarae, ac mae'r trefnwyr yn dweud fod gwahoddiad i bawb.

Ffynhonnell y llun, Iain Buchanan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r trefnwyr yn gobeithio croesawu rhwng 500 a 600 o bobl i'r dathliadau ddydd Sadwrn

Roedd Robert Eifion Davies, neu Spud i'w ffrindiau, yn rhan o'r g锚m gyntaf erioed yn 1974.

"Cafodd y clwb ei sefydlu gan bedwar neu bump o ddynion doeth, a dwi'n cofio chwara' yn y g锚m gyntaf yn erbyn Clwb Rygbi Cymry Caerdydd," meddai.

"Ar gae'r ysgol oedden ni'n chwara' bryd hynny, ac ma' nhw'n deud fod Dewi Pws yn chwara' yn y g锚m honno, ond dwi ddim yn ei gofio.

"Oeddan ni driphwynt ar y blaen, a dwi'n cofio meddwl bod rhywbeth yn gorfod mynd yn rong!

"Tua 45-3 oedd y sg么r erbyn y diwedd, ond ers y g锚m honno 'dna ni erioed wedi sb茂o'n 么l fel clwb."

Ffynhonnell y llun, Iain Buchanan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun o'r t卯m presennol, gydag Andrew Williams yr ail o'r chwith

Un arall sy'n edrych ymlaen at y diwrnod mawr ydy prif hyfforddwr t卯m Bethesda, Andrew Williams.

Ag yntau'n dal y record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau i Rygbi Gogledd Cymru - dros 200 - cyn iddo ymddeol dwy flynedd yn 么l, dyw Andrew methu aros i wynebu ei hen d卯m.

"Ma'n fraint enfawr i fi'n bersonol - nes i dreulio bron i 10 mlynedd yn chwarae i RGC, ac wedi bod yn lwcus i 'neud nifer helaeth o ymddangosiada'," meddai.

"Ma' wynebu nhw fel hyfforddwr yn rhywbeth reit sbesial, ond fydd o'n rhywbeth reit rhyfedd wynebu rhai o'n hen gyd-chwaraewyr fel hyfforddwr!

"Dwi'n ddiolchgar iawn i Bethesda, fel hogyn o Gaernarfon.

"Nhw roddodd y cyfle i fi hyfforddi, a ma' nhw wedi cefnogi fy mhenderfyniada' i."

Pynciau cysylltiedig