大象传媒

'Tystiolaeth' fod Hannah Blythyn wedi rhannu negeseuon

Hannah Blythyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Hannah Blythyn yn gwadu'n gryf yr honiad ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod blaenllaw o Lywodraeth Cymru yn dweud bod y Prif Weinidog yn gywir i ddiswyddo aelod o'i gabinet yn sgil honiad ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.

Fe wnaeth Vaughan Gething ddiswyddo'r cyn-Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, wythnos diwethaf, gan honni ei bod wedi rhannu negeseuon testun.

Mae Ms Blythyn yn gwadu'r honiad yn gryf, ond dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Eluned Morgan ddydd Llun ei bod yn "hapus" gyda'r diswyddiad.

Dywedodd fod "tystiolaeth" i gefnogi penderfyniad Mr Gething, ac y gallai'r negeseuon gael eu holrhain i ff么n Ms Blythyn.

Mae 大象传媒 Cymru wedi gwneud cais am sylw i Ms Blythyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Eluned Morgan ei bod ar ddeall bod modd olrhain y negeseuon testun i ff么n Hannah Blythyn

Dywedodd Ms Blythyn wythnos diwethaf: "Mae'r hyn sydd wedi digwydd heddiw [dydd Iau] wedi fy syfrdanu a'm trist谩u'n fawr.

"Rwy'n glir, ac wedi bod yn glir, na wnes i, ac nid wyf erioed wedi, ryddhau dim."

Wrth siarad ar raglen 大象传媒 Radio Wales Breakfast, dywedodd Eluned Morgan bod yn rhaid cael "rhywfaint o ymddiriedaeth" o fewn y cabinet, a'i bod hi'n "hapus" gydag esboniad Mr Gething.

Gwrthododd Ms Morgan fanylu ar y dystiolaeth ei hun.

Ychwanegodd: 鈥淔y nealltwriaeth i yw y gellir olrhain y negeseuon testun i鈥檞 ff么n.

"Mae digon o dystiolaeth i gefnogi hynny."

Ychwanegodd fod y prif weinidog wedi ei gwneud yn "gwbl glir" bod yna ffordd yn 么l i Ms Blythyn.