Angen 'camau brys' ar gynllun cwot芒u merched y Senedd
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynlluniau Llywodraeth Cymru am gwot芒u menywod gael eu drysu gan heriau cyfreithiol, yn 么l gr诺p o Aelodau o'r Senedd.
Mae'r Pwyllgor Biliau Diwygio yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd "camau brys" i "osgoi peryglu etholiad Senedd 2026".
Mae'r mesur arfaethedig yn cynnwys cynlluniau am gwot芒u menywod ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll dros bleidiau gwleidyddol.
Er bod mwyafrif y pwyllgor yn cefnogi'r cynlluniau, maen nhw'n galw ar y llywodraeth i ganfod ateb pendant ar 么l i rai gwestiynu a oes gan y Senedd y grym i basio'r gyfraith.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal trafodaethau gyda llywodraeth nesaf y DU cyn i'r Senedd bleidleisio ar y mesur.
Maen nhw hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru gyfeirio'r cynlluniau at Oruchaf Lys y DU i'w ystyried, os ydy'r Senedd yn pasio'r gyfraith.
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
Mae'r rhan fwyaf o'r pwyllgor, sy'n cynnwys aelodau o nifer o bleidiau gwleidyddol, yn gefnogol o fwriad y mesur i gynyddu amrywiaeth yn y Senedd, ac maen nhw wedi gwneud 25 o argymhellion i'w "gryfhau a gwella".
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu'r mesur yn llwyr, gan ei alw'n ddeddfwriaeth fydd yn "creu rhaniadau" ac sy'n "ddiangen".
Mae cadeirydd y pwyllgor, yr aelod Llafur, David Rees, wedi dweud: "Fel pwyllgor, rydym i gyd yn cytuno bod angen i鈥檙 Senedd adlewyrchu鈥檔 well y bobl y mae鈥檔 eu gwasanaethu.
"Wrth gydnabod bod y bil yn rhoi mesurau ar waith a allai gyfrannu at gydraddoldeb o ran cynrychiolaeth yn y Senedd, rydym eisiau gweld newidiadau i gryfhau a gwella鈥檙 bil,鈥 dywedodd.
Ychwanegodd: "Nid r么l y pwyllgor yw penderfynu a oes gan y Senedd y p诺er i basio鈥檙 bil hwn ond rydym yn pryderu am y dystiolaeth rydym wedi鈥檌 chlywed y gallai heriau cyfreithiol darfu ar etholiad 2026, ac felly rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i reoli a lliniaru鈥檙 risg hon."
Anghyfreithlon?
Mae pryderon wedi eu codi am elfennau eraill o'r mesur, sy'n cynnwys cynlluniau i ganiat谩u ymgeiswyr i ddatgan eu hunaniaeth rhyw eu hunain.
Mae'r Comisiwn Cyfartaledd a Hawliau Dynol (EHRC) wedi dweud eu bod yn pryderu y gallai hynny fod yn "anghyfreithlon".
Mae'r adroddiad yn dweud bod mwyafrif y pwyllgor yn fodlon bod gofyn y cwestiwn yma yn ffordd "gymesur" o orfodi'r rheolau cwota, ond roedd awgrym y dylid gwarchod rhag "achosion o gamddefnyddio'r broses" drwy gryfhau mesurau i atal rhag "datganiadau ffug".
Dywedodd Mr Rees: "Rydyn ni wedi clywed pryderon ynghylch a allai鈥檙 gofyniad i ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol ddatgan a ydyn nhw鈥檔 fenyw neu beidio fod yn agored i gael ei gamddefnyddio.
鈥淓r mwyn lleddfu鈥檙 pryderon hyn, rydym yn galw ar y llywodraeth i gynnwys y datganiad hwn o fewn y drosedd arfer llwgr sy鈥檔 gymwys ar gyfer gwybodaeth ffug arall ar ffurflenni enwebu.鈥
Roedd yr aelod Ceidwadol, Darren Millar, yn anghytuno gan ddweud y dylai'r mesur gynnwys diffiniad o 'fenyw' a dylai ymgeiswyr orfod bod yn ddynes fiolegol neu gael tystysgrif sy'n cael ei gydnabod yn gyfreithiol er mwyn gallu sefyll.
Ond roedd mwyafrif y pwyllgor yn cytuno y dylai datganiadau am ryw gael eu derbyn yn ddiffuant gan weinyddwyr etholiadol.
Mae disgwyl i'r Senedd drafod a phleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y mesur ar 18 Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod aelodau sawl pwyllgor -y Pwyllgor Biliau Diwygio, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a'r Pwyllgor Cyllid - wedi ystyried Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) a'u bod "yn ddiolchgar" iddyn nhw am hynny.
Fe fydd y llywodraeth nawr "yn ystyried argymhellion" adroddiadau dau o'r pwyllgorau hynny "yn fanwl".