Bachgen, 13, wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed wedi cael ei anafu'n ddifrifol ar 么l cael ei daro gan gar nos Iau yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Hirwaun am 18:25, ac fe gafodd dau ddyn eu harestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Cafodd y bachgen ei gludo i ysbyty ar gyfer triniaeth.
Mae trydydd dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o beidio rhoi sampl i swyddogion.
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth.