Teyrnged i fenyw fu farw ar yr A48 yn Sir G芒r
- Cyhoeddwyd
Dywed teulu dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A48 yn Sir G芒r eu bod yn torri eu calonnau wedi iddyn nhw golli gwraig, mam, mam-gu a hen fam-gu.
Roedd Nesta Jeffreys, 75, yn teithio mewn car fu mewn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar y ffordd rhwng Crosshands a Llanddarog am oddeutu 10:50 fore Gwener.
Bu'r ffordd ar gau am gryn amser.
Mae teulu Ms Jeffreys wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd gan ychwanegu eu bod wedi colli aelod mor werthfawr o'r teulu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A48 rhwng Crosshands a Llanddarog ar adeg y gwrthdrawiad i gysylltu 芒 nhw - yn enwedig gyrwyr sydd 芒 chamer芒u cerbyd - dashcam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf