Cyhoeddi enw dyn fu farw ar safle ailgylchu yn lleol
- Cyhoeddwyd
Mae gweithiwr fu farw mewn digwyddiad ar safle ailgylchu yng Nghaerdydd wedi cael ei enwi鈥檔 lleol fel Kyle Colcomb.
Cafodd Mr Colcomb ei ddisgrifio gan gydweithwyr fel 鈥済wr bonheddig鈥 a dyn 鈥渃wbl unigryw鈥.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i safle Atlantic Recycling yn Nhredelerch, Caerdydd, am 12:45 ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu fod dyn wedi cael ei anafu yno, a'i fod wedi marw o'i anafiadau.
Yn 么l perchnogion y cwmni, Dauson Environmental Group, fe ddigwyddodd y farwolaeth tra bod "contractwr yn gwneud gwaith cynnal a chadw" ar y safle.
Dywedodd M & B Hydraulics eu bod wedi "digaloni'n llwyr" yn sgil marwolaeth Mr Colcomb, gan ddweud ei fod yn 鈥渂leser llwyr i fod wedi gallu gweithio gydag ef鈥.
Disgrifiodd UKFF Solutions Mr Colcomb ar Instagram fel 鈥渄yn gwych a gweithiwr arbennig o galed".
Dywedodd Dauson mewn datganiad ddydd Llun eu bod yn 鈥減arhau i gefnogi鈥檙 gwasanaethau brys a rheoleiddwyr gyda鈥檜 hymchwiliadau鈥.