Mike Phillips yn pledio'n euog i yfed a gyrru
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru Mike Phillips wedi cael ei wahardd rhag gyrru am 25 mis ar 么l pledio'n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru.
Fe gafodd y cyn-fewnwr 41 oed ei arestio yn Llanwrtyd ym Mhowys ar 7 Gorffennaf.
Clywodd Llys Ynadon Llandrindod bod Phillips yn gyrru Audi A4 ar y pryd a bod prawf wedi cofnodi 108 microgram o alcohol i bob 100 mililitr o anadl.
Y terfyn cyfreithiol yw 35 microgram, sy'n golygu fod Phillips dair gwaith dros y terfyn hwnnw.
Fe fydd y gwaharddiad gyrru yn cael ei gwtogi 25 wythnos os yw Phillips yn cwblhau cwrs ymwybyddiaeth yfed a gyrru cyn 8 Ionawr 2026.
Fe gafodd ddirwy hefyd o 拢1,153, a bydd yn rhaid iddo wneud taliad ychwanegol o 拢461 a thalu 拢85 mewn costau.