大象传媒

Ap锚l i ganfod dyn wedi gwrthdrawiad marwol

Demi Mabbitt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Demi Mabbitt oedd y "glud a oedd yn glynu ein teulu gyda'i gilydd" yn 么l ei theulu

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 heddlu yn apelio am wybodaeth allai arwain at arestio dyn 29 oed o Ferthyr Tudful yn dilyn gwrthdrawiad a laddodd fenyw ifanc 25 oed.

Bu farw Demi Mabbitt, o Aberfan, yn dilyn y gwrthdrawiad ger siop Trago Mills ym Merthyr Tudful am tua 23:45 ar 5 Ebrill.

Un car oedd yn y gwrthdrawiad - Audi S3 gwyn - a oedd yn teithio ar hyd Heol Abertawe o Trago Mills i gyfeiriad yr A465.

Dywedodd y Ditectif Sarjant, Debbie Hobrough o Heddlu De Cymru eu bod 鈥渨edi bod yn ceisio dod o hyd i Cameron Jones ers y gwrthdrawiad".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r heddlu yn dweud bod Cameron Jones yn "unigolyn peryglus" ac i bobl gadw draw

Ychwanegodd ei fod yn "unigolyn peryglus鈥 ac na ddylid mynd yn agos ato.

Maen nhw鈥檔 apelio ar y cyhoedd i gysylltu 芒'r heddlu os oes ganddynt unrhyw wybodaeth a fydd yn eu helpu i ddod o hyd iddo.

Mae dyn 30 oed a menyw 29 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae鈥檙 heddlu鈥檔 rhybuddio y bydd mwy o bobl yn cael eu harestio 鈥減e bai unrhyw un arall yn cael ei amau o gynorthwyo Jones i osgoi'r heddlu".

Menyw 'addfwyn a charedig'

Mae teulu Demi wedi rhoi teyrnged iddi, gan ddweud ei bod yn 鈥渇erch, wyres, chwaer, modryb a chyfnither wych鈥.

"Hi oedd yr enaid mwyaf addfwyn a charedig a fyddai'n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un.

"Hi oedd y glud a oedd yn glynu ein teulu gyda'i gilydd ac roedd hi鈥檔 ymladd hyd y diwedd.

"Fe gymerwyd ein merch brydferth yn llawer rhy fuan.

"Mae ein teulu wedi ei ddistrywio. Nid oes geiriau i ddisgrifio'r torcalon a'r boen rydyn ni'n ei deimlo."

Pynciau cysylltiedig