Pobl ifanc yn 'fwy parod i dalu am wasanaethau Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol o dalu mwy am wasanaethau neu gynnyrch os yw'n cael ei werthu drwy'r Gymraeg.
Yn 么l gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor fe allai'r Gymraeg gyfrannu lot i fusnesau yng Nghymru, ac mae hynny鈥檔 cael ei gefnogi gan gynllun Bwrlwm Arfor sydd wrthi'n cynnig grantiau i fusnesau am wella eu darpariaeth o'r iaith.
Yn 么l dynes o Wynedd a sefydlodd gwmni ddwy flynedd yn 么l, mae鈥檙 iaith wedi bod yn fodd o ddenu cwsmeriaid newydd yn ogystal 芒 marchnata llwyddiannus.
Mae cynllun Bwrlwm Arfor yn gweithredu o fewn siroedd sy鈥檔 cael eu hystyried yn gadarnleoedd i鈥檙 iaith Gymraeg - M么n, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.
'Rhywbeth unigryw'
Mi sefydlodd Catrin Hughes gwmni Dwylo Bach ddwy flynedd yn 么l yn ardal Bangor, ac mae鈥檔 cynnal sesiynau i rieni a鈥檜 babanod.
鈥淢ae unrhyw fusnes sy鈥檔 creu gwasanaeth yn y Gymraeg yn creu rhywbeth unigryw ynddo鈥檌 hun,鈥 meddai.
鈥淲aeth beth yw鈥檆h busnes chi mae鈥檔 rhoi elfen lot fwy cryf i chi yn lleol a dwi鈥檔 teimlo bod modd i chi ddatblygu perthynas efo鈥檙 cleientiaid hefyd.
鈥淢aen nhw鈥檔 teimlo鈥檔 gyfforddus a da chi鈥檔 creu rapport a bod nhw鈥檔 teimlo yn agos ata chdi.鈥
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
- Cyhoeddwyd7 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
Mae Ms Hughes yn marchnata ei sesiynau ac yn eu cynnal yn gwbl ddwyieithog gan ddweud bod gwneud hynny wedi denu mwy o gwsmeriaid fyth i ddefnyddio'r sesiynau.
Mae鈥檙 cynllun ar hyn o bryd yn galw ar fusnesau o fewn cadarnleoedd y Gymraeg i wneud cais am bres o gronfa gwerth 拢300,000 i dderbyn cefnogaeth.
Mi all y gwasanaeth wedyn helpu gyda chyfieithu a chynnig ffyrdd o ddatblygu鈥檙 Gymraeg o fewn y busnes gyda鈥檙 nod o gynyddu ymwybyddiaeth a darpariaeth.
鈥淢ae 'na gyfle fan hyn,鈥 meddai Zoe Pritchard o Fwrlwm Arfor.
鈥淐yfle i ni ddathlu'r hyn sydd ganddo ni o ran busnesau sy鈥檔 gwneud defnydd gwych o鈥檙 Gymraeg a hefyd be' sy鈥檔 buddio yn economaidd a be' sy鈥檔 creu cyllid ac arian i ennill cwsmeriaid newydd oherwydd eu bod yn defnyddio鈥檙 iaith."
Mae gwaith ymchwil diweddar gan Brifysgol Bangor hefyd yn awgrymu bod pobl ifanc yn fwy tebygol o fynd yn 么l at fusnes mwy nag unwaith os oes darpariaeth drwy鈥檙 Gymraeg.
Yn 么l Dr Edward Thomas Jones sy鈥檔 economegydd ym Mhrifysgol Bangor mae鈥檔 bwysig gweld gwerth y Gymraeg ym myd busnes.
鈥淢i natho ni ymchwiliad yma ar draws gogledd Cymru yn edrych ar faint oedd cwsmeriaid yn fodlon talu i gael gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
鈥淣atho ni ddarganfod fod pobl h欧n... doedda nhw ddim yn fodlon talu mwy am wasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg am wahanol resymau ond roedd cwsmeriaid ifanc yn fodlon talu mwy ar gyfer cael gwasanaethau drwy鈥檙 Gymraeg."
Mae hynny yn wir, meddai o鈥檙 busnesau lleiaf i鈥檙 mwyaf, a hynny wrth i archfarchnad ryngwladol Lidl dderbyn cydnabyddiaeth y llynedd am eu defnydd o鈥檙 Gymraeg.
Mae cynllun Bwrlwm Arfor r诺an yn galw am geisiadau er mwyn gwella darpariaeth busnesau o fewn cadarnleoedd y Gymraeg gan obeithio sicrhau dyfodol llewyrchus i鈥檙 iaith, meddai.