Tata Port Talbot: Aelodau undeb Unite am fynd ar streic
- Cyhoeddwyd
Mae gweithwyr dur o undeb Unite wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol yn sgil cynlluniau ailstrwythuro cwmni Tata.
Yn 么l yr undeb, mae'r "bleidlais hanesyddol" yn golygu y bydd streic yng ngwaith dur Port Talbot am y tro cyntaf mewn 40 o flynyddoedd.
Dywedodd Unite bod tua 1,500 o'u haelodau wedi pleidleisio dros weithredu yn erbyn cynlluniau, allai olygu colli bron i hanner gweithlu Port Talbot.
Bydd bron i 3,000 o swyddi'n mynd drwy'r DU dan gynlluniau'r cwmni.
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Yn 么l cwmni dur Tata, maen nhw yn y broses o ymgynghori gyda staff a鈥檙 undebau ac wedi cyflwyno pecyn cymorth 鈥渃ynhwysfawr鈥 i鈥檙 staff fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau.
鈥淩ydym yn naturiol yn siomedig, wrth i鈥檙 ymgynghoriad barhau, bod aelodau o undeb Unite ym Mhort Talbot a Llanwern wedi nodi y bydden nhw鈥檔 fodlon gweithredu鈥檔 ddiwydiannol," ychwanegodd llefarydd.
鈥淩ydym wedi ysgrifennu at undeb Unite ddwywaith yn ystod y broses bleidleisio i roi gwybod am anghysondebau difrifol yn y broses bleidleisio maen nhw wedi ei chymryd.鈥
'Heb streicio fel hyn ers yr 80au'
Yn 么l ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, Sharon Graham: "Mae hon yn bleidlais hanesyddol.
"Dydy gweithwyr dur heb bleidleisio i streicio fel hyn ers yr 1980au."
Ychwanegodd bod y pleidleisio dros weithredu wedi digwydd "er gwaetha' bygythiadau gan Tata y byddai pecynnau diswyddo gwell yn cael eu tynnu'n 么l pe bai streicio".
Yn 么l yr undeb, byddan nhw'n cyhoeddi dyddiadau'r streicio cyn hir.
Pan ofynnwyd iddo am y ffaith fod Tata yn cwestiynu鈥檙 broses bleidleisio, dywedodd Peter Hughes o Unite: 鈥淢ae ein haelodau wedi rhoi neges yn glir iawn i Tata.
"Ni fyddant yn cael eu blacmelio, ni fyddant yn cael eu bwlio. Byddwn yn ymladd ac yn ennill y frwydr yma.
"Mae gan ddur yn y DU ddyfodol gwych. Mae鈥檔 drueni na all Tata weld hynny.鈥
Mae Tata eisiau cael gwared 芒鈥檙 ffwrneisi chwyth safle Port Talbot, gan droi at ddulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu.
Yn y cyfamser, mae pleidlais wedi agor i aelodau undeb Community, fydd yn penderfynu a fyddan nhw'n gweithredu鈥檔 ddiwydiannol ai peidio.
Bydd gan yr aelodau tan 9 Mai i fwrw鈥檜 pleidlais.
Cynlluniau 'anymarferol' ac 'annerbyniol'
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Community, Roy Rickhuss, bod cynllun Tata yn 鈥渁nymarferol鈥 ac yn 鈥渁nnerbyniol鈥.
Galwodd ar yr aelodau i bleidleisio dros weithredu, er yn cydnabod ei fod yn gam sy鈥檔 cael ei gymryd pan fydd popeth arall yn methu.
鈥淢ae鈥檔 aelodau鈥檔 gwybod nawr bod angen brwydro i achub ein diwydiant, ac mae鈥檔 rhaid [defnyddio] pob arf sydd gennym i roi pwysau ar Tata i newid cyfeiriad,鈥 meddai.
Mae cwmni dur Tata yn cyflogi 8,000 o bobl yn y DU - tua 4,000 o'r rheiny ym Mhort Talbot.
Dywedodd llefarydd bod y busnes ar hyn o bryd yn 鈥渁nghynaladwy鈥 a'u bod yn gwneud colledion o dros 拢1m y dydd.
鈥淒rwy ailstrwythuro鈥檔 gwaith yn y DU byddwn yn gallu cynnal y busnes wrth i ni droi tuag at dechnoleg ffwrnais drydan newydd.鈥
Ar 么l cau鈥檙 ffwrneisi chwyth yn ddiweddarach eleni, mae鈥檙 cwmni o India yn bwriadu gwario 拢1.25bn ar ffwrnais drydan newydd ym Mhort Talbot.
Mae Llywodraeth y DU yn cyfrannu 拢500m tuag at gost y cynllun.
Gwrthod cynllun undebau
Roedd yr undebau wedi creu cynllun arall oedd yn lleihau nifer y swyddi fyddai'n cael eu colli, drwy gadw o leiaf un ffwrnais chwyth tan fod y ffwrnais drydan yn barod.
Ond cafodd y syniad ei wrthod gan gwmni dur Tata. Roedden nhw鈥檔 bryderus am ddiogelwch adeiladu ffwrnais newydd ger llinell gynhyrchu dur poeth.
Mae cymorth ar gael i鈥檙 staff allai golli eu swyddi, gan gynnwys cronfa 拢100m i helpu gweithwyr i wella sgiliau a dod o hyd i waith.
Cyfrannodd Llywodraeth y DU 拢80m ar gyfer y gronfa, a chwmni dur Tata 拢20m.