Aberfan: Dyn yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio menyw feichiog

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Mae Daniel Popescu wedi ei gyhuddo o drywanu menyw yn Aberfan ar 5 Rhagfyr
  • Awdur, Aled Huw
  • Swydd, 大象传媒 Cymru

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o geisio llofruddio menyw feichiog a gafodd ei thrywanu yn Aberfan.

Fe ymddangosodd Daniel Mihail Popescu o flaen Llys y Goron Caerdydd fore Iau.

Mae'r dyn 29 oed o Ferthyr Tudful hefyd wedi ei gyhuddo o stelcio a bygwth tystion.

Fe gafodd Andrea Pintili, 29, ei thrywanu ger ei chartref ar Stryd Moy yn Aberfan ar 5 Rhagfyr.

Fe siaradodd Daniel Popescu drwy gyfieithydd mewn Romaneg i gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni.

Ni chafodd y diffynnydd ei gyhuddo'n ffurfiol gan fod disgwyl i adroddiadau seiciatryddol gael eu cwblhau.

Cafodd dyddiad ar gyfer achos llawn ei bennu i ddechrau yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 3 Mehefin.

Cafodd y diffynnydd ei gadw yn y ddalfa.