大象传媒

Streic y glowyr wedi 'paratoi'r ffordd' at ddatganoli

Disgrifiad,

Mae'r Arglwydd Elis-Thomas yn gweld y streic fel rhan o'r "newid meddylfryd" tuag at ddatganoli

  • Cyhoeddwyd

Cafodd "patrymau cydweithio" eu sefydlu yn ystod streic y glowyr wnaeth helpu i "baratoi y ffordd ar gyfer datganoli", yn 么l cyn-lywydd Senedd Cymru.

Roedd streic fawr 1984 yn ddigwyddiad gwleidyddol a diwydiannol allweddol yn hanes Cymru.

40 mlynedd yn ddiweddarach, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fod streic y glowyr yn "rhan o'r newid meddylfryd tuag at ddatganoli a hunan lywodraeth".

Mae wedi ei disgrifio gan rai fel protest ddiwydiannol oedd hefyd yn ymgyrch yn erbyn Thatcheriaeth, gydag un hanesydd amlwg yn disgrifio'r prif weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, fel "pensaer annhebygol datganoli yng Nghymru".

Adeg y streic roedd yr Arglwydd Elis-Thomas yn Aelod Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan, gan gynrychioli Sir Feirionnydd, ac roedd yn gefnogol iawn i streic y glowyr.

"Roedd e'n ddigwyddiad gwleidyddol wrth gwrs - fel ma' pob streic ddiwydiannol - mewn diwydiant mor bwysig ag oedd y diwydiant ynni yn y cyfnod yna," meddai.

"Ond roedd o hefyd yn allweddol yn gymdeithasol oherwydd fe greodd batrymau o gydweithio ymysg pobl ar draws Cymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd y streic yn adlewyrchu beth oedd yn digwydd ar lawr gwlad, mewn cyfnod lle gwelwyd newidiadau mawr o ran yr economi ond mewn cymdeithas hefyd.

Roedd gwleidyddiaeth y cyfnod yn adlewyrchu'r newid yna.

Dywed y sylwebydd gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones fod y streic wedi llwyddo i adeiladu pontydd yn y byd gwleidyddol.

"Roedd streic y glowyr yn ddiddorol nid gymaint oherwydd fod y pleidiau yn cydweithredu, oherwydd roedd llawer o gydweithredu rhwng Plaid Cymru, a'r mudiad cenedlaethol a'r mudiad llafur," meddai.

"Roedd lot o hen amheuaeth a chynnen 'di bod yn y berthynas yna yn hanesyddol, a dwi'n meddwl fod y streic wedi bod yn bwysig wrth adeiladu pontydd rhwng be' fyddech chi'n galw'r mudiad cenedlaethol a'r mudiad llafur, a bod hynny wedi bod yn ffactor arwyddocaol yn be' ddigwyddodd yn niwedd y 90au a'r newid mawr mewn barn yngl欧n 芒 datganoli rhwng 1979 a 1997."

Ffynhonnell y llun, Grwpiau Cefnogi, Menywod De Cymru, drwy law Archifau Morgannwg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gan fenywod le amlwg yn yr ymgyrchu wrth i'r streic barhau

Roedd y cyn-Aelod Seneddol Llafur, Sian James yn flaenllaw yn ymgyrch y menywod yn erbyn cau pyllau adeg y streic, ac roedd ei g诺r yn un fu ar streic.

Roedd hi'n rhannu llwyfan 芒 phleidiau eraill a mudiadau protest fel Cymdeithas yr Iaith mewn ral茂au a phrotestiadau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Sian James, ar sawl llinell biced

Mae hi'n cofio'r cydweithio ddigwyddodd rhwng y glowyr, yr undebau a mudiadau ymgyrchu fel y menywod yn erbyn cau pyllau.

"Mae'n rhaid i chi gofio bo' ni聽gyd ar yr un ochr. Ma' c芒n enwog Billy Bragg, 'Which Side Are You On?'.

"Ro'n i wedi penderfynu ar ba ochr fydden ni yn sefyll ac roedd rhaid i ni chwarae rhan. Fel oedd y streic yn mynd 'mlan roedd rhaid i ni 'neud mwy.

"Roedd y Bwrdd Glo ffaelu sacio ni fel menywod. Os bydden ni yn damshgil ar eu tir nhw roedden nhw ffaelu rhoi sac i ni.

"Be' oedd y pwynt i'r heddlu erlyn ni i'r llys? Doedd dim arian gyda ni!

"Ond roedd hi yn wahanol i'r dynion - roedden nhw yn gallu cael y sac - felly, fel menywod roedden ni yn gwybod bod rhaid i ni 'neud mwy."

Wrth i'r streic barhau a'r wythnosau'n troi yn fisoedd, fe wnaeth agweddau pobl newid.

Roedd hi'n amlwg fod mwy o bobl yn dod i'r casgliad y dylai penderfyniadau yngl欧n 芒 Chymru gael eu gwneud yng Nghymru, a dywed yr Arglwydd Elis-Thomas y gwelwyd newid barn amlwg ers cyfnod refferendwm 1979 a'r bleidlais yn 1997.

"Dwi'n meddwl fod streic y glowyr yn rhan o'r newid meddylfryd tuag at ddatganoli a hunan lywodraeth oherwydd bod yna gymaint o gydweithrediad wedi bod ar y chwith neu'r canol chwith, yn enwedig trwy'r arweiniad gawsom ni gan Undeb y Glowyr yn y cyfnod yna."

'Troedigaeth wleidyddol i lot fawr'

Wrth s么n am y cydweithio rhwng undebau llafur, arweinwyr enwadau a mudiadau ymgyrchu fel grwpiau heddwch yn ogystal 芒'r pleidiau, mae'r聽Arglwydd Elis-Thomas yn ei weld fel trobwynt.

"Beth dwi yn teimlo oedd yn bwysig oedd y ddealltwriaeth a ddatblygodd ar y canol chwith yng Nghymru yn benodol rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ond hefyd yn cynnwys elfennau o'r Rhyddfrydwyr radical - yn enwedig yn yr ardaloedd mwy diwydiannol yn y de.

"Wedyn roedd rheiny wedi dysgu fod cydweithio 芒 phobl o gefndiroedd gwahanol a phobl yn teimlo eu bod o'r un lle.

"Roedd o fel troedigaeth wleidyddol i lot fawr o bobl."