Y Scarlets: 15 mlynedd arall i ad-dalu benthyciad
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i ymestyn y cyfnod sydd gan ranbarth rygbi'r Scarlets i ad-dalu benthyciad o 拢2.6m.
Roedden nhw i fod i dalu'r arian y gwnaethon nhw ei dderbyn yn 2007 yn 么l erbyn 1 Ebrill 2023.
Maen nhw bellach wedi cael estyniad o 15 mlynedd, sy'n golygu na fydd angen iddyn nhw ad-dalu'r arian tan 2038.
Mae disgwyl i'r Scarlets wneud colled o 拢4m eleni.
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
Dywedodd Nigel Short, cyn-gadeirydd y rhanbarth ac aelod o'r bwrdd, wrth gynghorwyr y byddai'r clwb wedi gorfod mynd yn fethdalwyr "os fyddai'r benthyciad yn cael ei alw 'n么l" nawr.
Fe wnaeth aelod o'r cabinet, y cynghorydd Alun Lenny, gyflwyno'r cynnig, gan honni nad yw'r benthyciad "wedi costio ceiniog i drethdalwyr Sir Gaerfyrddin."
Dywedodd Mr Lenny fod y rhanbarth eisoes wedi talu'r llog o 拢1.3m ar y benthyciad gan ddweud fod y rhanbarth yn "rhan fawr o ochr gymdeithasol ac economaidd" y sir.
'Cyfnod o ailstrwythuro'
Fe siaradodd cadeirydd y Scarlets, Simon Muderack yn ystod y cyfarfod.
Dywedodd fod y Scarlets "yng nghanol cyfnod o ailstrwythuro er mwyn dychwelyd i fod yn fwy sefydlog".
Dywedodd fod y rhanbarth yn gwneud elw cyn Covid, ond bod y pandemig wedi effeithio arnyn nhw.
Dywedodd eu bod eisoes wedi cyflwyno mesurau i arbed arian, gan gynnwys haneru cost cynnal y prif d卯m.
Dywedodd Nigel Short ei fod yn derbyn bod y cais i ymestyn y benthyciad yn "ofyn mawr" i'r cyngor mewn cyfnod anodd yn ariannol.
Fe alwodd y Cynghorydd Martyn Palfreman ar y Cynghorydd Alun Lenny i sicrhau na fydd y cynnig yn effeithio ar y ffordd mae gwasanaethau'r cyngor yn cael eu hariannu.
Dywedodd Mr Lenny na fydd hynny yn "peryglu cyllid ar gyfer prosiectau eraill".
Dywedodd Mr Short fod y Scarlets yn bwriadu ad-dalu'r arian cyfalaf a'r llog wrth i'r busnes ddod yn fwy sefydlog.