S诺 Mynydd Cymru 'wedi synnu' 芒 genedigaeth dwy gath brin
- Cyhoeddwyd
Mae S诺 Mynydd Cymru yn dathlu genedigaeth dwy gath brin.
Dyma鈥檙 tro cyntaf i efeilliaid margai - neu deigr-gathod - gael eu geni yn y s诺 ym Mae Colwyn.
Fel arfer mae'r math yma o gathod yn rhoi genedigaeth i un gath fach, felly roedd genedigaeth yr efeilliaid yn "syndod mawr", meddai'r s诺.
Mae'r ddwy gath fenywaidd bellach yn 12 wythnos oed ac yn iach.
Roedd eu mam, Sonora, a'u tad, Maverick, eisioes wedi cael dwy gath fach sengl yn flaenorol.
Yn wreiddiol o dde America, mae cathod margai dan fygythiad yn bennaf oherwydd datgoedwigo.
Dywedodd y s诺 mai dim ond unwaith bob dwy flynedd mae cathod margai yn atgenhedlu yn y gwyllt.
Ers 2017, mae S诺 Mynydd Cymru wedi bod yn llwyddiannus iawn yn bridio'r cathod, gydag wyth cath fach yn cael eu geni yn y S诺 yn y cyfnod hwnnw.
Dywedodd Chris Mitchell, Prif Weithredwr y S诺 Mynydd Cymru: 鈥淓r bod genedigaeth un gath fach margai yn achos dathlu, mae croesawu efeilliaid yn wych.
"Anaml y caiff efeilliaid eu geni yn y gwyllt neu mewn lleoliadau s诺 ac roedd eu genedigaeth yn syndod i ni i gyd.
鈥淢ae'r cathod bach yn brydferth ac yn datblygu yn union fel y byddem yn ei ddisgwyl o ran twf a datblygiad.
"Maen nhw鈥檔 dal i aros yn agos at fam a dad ond maen nhw鈥檔 chwilfrydig iawn ac yn araf bach yn dechrau archwilio eu hamgylchedd ehangach.鈥