大象传媒

Cadarnhau grant 拢500m am ffwrnais drydan ym Mhort Talbot

Llun o weithfeydd dur Port TalbotFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y disgwyl yw y bydd tua 2,500 o weithwyr yn colli eu swyddi yn yr wythnosau nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau cytundeb "newydd a gwell" gyda Tata, wrth iddyn nhw roi grant o 拢500m i'r cwmni dur.

Bydd yr arian yn mynd tuag at gost ffwrnais drydan newydd ar safle Tata ym Mhort Talbot, ac mae'r un swm 芒'r hyn gafodd ei gytuno mewn egwyddor gan y lywodraeth Geidwadol ddiwethaf.

Daw'r cyhoeddiad wrth i gwmni Tata ddechrau'r broses o gau ei ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, gyda disgwyl i'r ail o ddwy ffwrnes gau cyn diwedd y mis.

Y disgwyl yw y bydd tua 2,500 o weithwyr yn colli eu swyddi bryd hynny, gyda 300 yn rhagor i golli eu swyddi dros y misoedd nesaf.

Fel rhan o鈥檙 cytundeb, mae Tata wedi cytuno i edrych ar gyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol, gan gynnwys y posibilrwydd o gael tyrbinau gwynt yn ne Cymru.

Yn 么l undebau llafur Community a GMB, nid yw鈥檙 cytundeb yn 鈥渞hywbeth i'w ddathlu鈥, ond mae鈥檙 cynllun yn 鈥渨ell na鈥檙 cynllun ofnadwy a gafodd ei gyhoeddi gan Tata a鈥檙 Tor茂aid n么l ym Medi 2023鈥.

Mae鈥檙 Ysgrifennydd Busnes Jonathan Reynolds wedi dweud bod y cytundeb yn rhoi 鈥済obaith i ddyfodol y diwydiant dur yn ne Cymru".

鈥淒y鈥檔 ni鈥檔 gwybod bod dyfodol glanach, gwyrddach i ddiwydiant dur y DU yn angenrheidiol er mwyn sicrhau sefydlogrwydd economaidd tymor hir.

鈥淣id yw鈥檙 ffordd ymlaen am fod yn brin o sialensiau, ond bydd ein strategaeth dur yn gosod gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol y diwydiant ac yn cael ei gefnogi gan ein hymrwymiad maniffesto o 拢3bn o fuddsoddiad gan y llywodraeth.鈥

Mae鈥檙 llywodraeth yn dweud y bydd yn gosod allan ei strategaeth yn y gwanwyn.

Ond mae Plaid Cymru wedi dweud fod y cyhoeddiad "yn ddim byd mwy na fersiwn arall o'r fargen a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol".

'Gadael bwlch ofnadwy'

Yn y gymuned leol mae 鈥榥a bryder am y blynyddoedd rhwng cau鈥檙 ffwrneisi traddodiadol eleni ac adeiladu鈥檙 ffwrnais drydan newydd yn y dyfodol.

Fe wnaeth Huw Samuel, 61, ymddeol o鈥檌 swydd yng ngweithfeydd dur Port Talbot fis Awst 2023.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 gwybod bod rhaid i鈥檙 diwydiant newid er mwyn datgarboneiddio, ond o鈥檔 i ddim yn erfyn i bethau newid mor gyflym,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Huw Samuel yn poeni y bydd pobl ifanc yn gorfod gadael yr ardal i chwilio am swyddi

鈥淩oedd e鈥檔 sioc ofnadwy, i fi, i glywed bod y coke ovens yn cau lawr.

"Maen nhw wedi dechre cau lawr ers pum mis nawr, ac mae ffwrnais rhif pump wedi cau.

"Erbyn diwedd y mis bydd ffwrnais rhif pedwar wedi cau, a does dim troi yn 么l ar 么l hynny.

鈥淢ae hwnna yn mynd i adael bwlch ofnadwy - bwlch ofnadwy yn y diwydiant, a bwlch am y blynyddoedd mae鈥檔 mynd i gymryd i adeiladu鈥檙 ffwrnais.鈥

'Pobl ifanc yn gadael yr ardal'

Ers 1986 roedd Mr Samuel wedi gweithio yn y felin oer ym Mhort Talbot ac yn byw ym mhentref Cwmafon, tafliad carreg o鈥檙 gwaith.

鈥淒wi wedi llwyddo rhoi tri o blant drwy鈥檙 ysgol gydag addysg Gymraeg, a thrwy鈥檙 brifysgol hefyd,鈥 meddai.

Ond mae Ms Samuel bellach yn poeni am ei gydweithwyr, fydd yn colli鈥檙 cyfle i fwynhau gyrfa sefydlog yn y gweithfeydd dur.

鈥淏eth mae pobl leol yn becso amdano fe yw鈥檙 plant ysgol - bydd dim prentisiaethau [tebyg] ar gael iddyn nhw,鈥 meddai.

鈥淏ydd y bobl ifanc yn gadael yr ardal, a mynd efallai i Loegr i chwilio am waith ac i wario eu dyfodol nhw, fel teulu, o鈥檙 ardal.

"Mae鈥檔 drueni mawr, ac mae 鈥榥a golled fawr o鈥檙 swyddi hynny.鈥

Dadansoddiad

Huw Thomas, Gohebydd Busnes 大象传媒 Cymru

Os ydy'r arian sydd ynghlwm 芒'r cytundeb union yr un peth, beth sy'n newydd am gyhoeddiad y llywodraeth Lafur o'i gymharu 芒'r hyn y llwyddodd y Ceidwadwyr i gytuno arno gyda Tata Steel?

Mae Llafur yn mynnu eu bod wedi cael mwy o gefnogaeth gan Tata Steel ar gyfer gweithwyr sy'n colli eu swyddi.

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud bod ganddyn nhw sicrwydd newydd gan Tata Steel y byddan nhw'n cynnal lefelau staffio yn uwch na 5,000 a bod ganddyn nhw modd o dynnu'n 么l rhywfaint o'r 拢500m os bydd addewidion yn cael eu torri.

Mae hefyd ymrwymiad gan Tata Steel i ystyried buddsoddiadau newydd yn y dyfodol, megis adeiladu melin blatiau i wasanaethu ffermydd gwynt newydd.

Mae'r Tor茂aid yn dweud mai ychydig iawn sydd wedi newid o'r cytundeb y cyhoeddodd Rishi Sunak fis Medi diwethaf.

Dydy cytundeb y llywodraeth newydd ddim yn newid cynllun Tata Steel i ddiswyddo 2,800 o bobl, a bydd yr un swm o arian yn mynd tuag at yr un ffwrnais drydan gafodd ei chrybwyll gyntaf gan y llywodraeth Geidwadol bron i flwyddyn yn 么l.